Ewch i’r prif gynnwys
Siwan Rosser

Dr Siwan Rosser

Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu

Ysgol y Gymraeg

Email
RosserSM@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 76287
Campuses
Adeilad John Percival , Ystafell Ystafell 1.70, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Llenyddiaeth Gymraeg i blant a phobl ifainc yw fy mhrif faes ymchwil. Dyma faes eang ac arwyddocaol na chafodd fawr o sylw yng Nghymru hyd yn ddiweddar. Ond mae fy ymchwil dros y degawd diwethaf ar destunau hanesyddol a chyfoes wedi datgelu'r berthynas gymhleth rhwng llên plant a disgyrsiau llenyddol a phedagogaidd yn ymwneud ag iaith, ethnigrwydd a rhywedd. Rwy'n ymddiddori'n bennaf yn y berthynas ddeinamig rhwng llenyddiaeth plant a'i chyd-destun diwylliannol a chymdeithasol, yn arbennig yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol, a dyna ffocws fy monograff diweddaraf, Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y 19g.

Rwyf hefyd yn cyfrannu'n helaeth at y drafodaeth gyfredol ar lyfrau Cymraeg i blant. Fe'm comisiynwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru i lunio Arolwg o Lyfrau Plant a Phobl Ifanc, ac mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn 2017 bellach yn llywio eu strategaeth yn y maes. Ymhlith yr enghreifftiau o draweffaith yr adroddiad mae mentrau cydweithredol i feithrin awduron plant a darlunwyr, rhyngwladoli profiadau darllen plant a phobl ifanc a chreu platfformau print a digidol newydd i hyrwyddo ac adolygu llyfrau plant.

Yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol y Gymraeg, rwy'n gyfrifol am faterion sy'n ymwneud ag iechyd a lles, cynaliadwyedd ac effaith werdd. Rwy'n dysgu ar raddau israddedig ac ôl-raddedig yr Ysgol, ac yn gyfarwyddwr yr MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd.

Rwy'n arwain tîm golygyddion Llên Cymru, y prif gyfnodolyn academaidd ym maes astudiaethau ar lenyddiaeth Gymraeg a beirniadaeth lenyddol.

Cyhoeddiad

2020

2019

2017

2016

2013

2012

2009

2008

2007

2005

Adrannau llyfrau

Erthyglau

Llyfrau

Monograffau

Addysgu

Rwy'n cyfrannu at drawstoriad o fodiwlau'r BA yn y Gymraeg, gan gynnwys:

  • Mapio'r Cymry (arweinydd)
  • Herio'r Traddodiad Llenyddol
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Llenyddiaeth Plant (arweinydd)
  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Hefyd, rwy'n Gyfarwyddwr yr MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, ac yn dysgu ar y modiwlau hyn:

  • Ymchwilio Academaidd a Phroffesiynol (arweinydd)
  • Archwilio Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd
  • Pwnc Arbenigol
  • Prosiect Estynedig

Bywgraffiad

Aelodaethau proffesiynol

  • Cadeirydd Adran Diwylliant y 18fed a'r 19eg Ganrif, Cymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Cymru.
  • Aelod o Banel Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru.
  • Aelod o Banel Cymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Pwyllgorau ac adolygu

Cyd-olygydd Llên Cymru, y prif gyfnodolyn academaidd ym maes astudiaethau ar lenyddiaeth Gymraeg a beirniadaeth lenyddol.

Adolygydd Cyfnodolyn, Gwerddon.

Adolygydd ar gyfer cyhoeddiadau Gwasg Prifysgol Cymru.

Meysydd goruchwyliaeth

Mae gennyf ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr PhD mewn meysydd megis:

  • Llenyddiaeth Gymraeg i Blant a Phobl Ifainc
  • Llên Plant yng nghyd-destun Ieithoedd Lleiafrifol
  • Cyfieithu ac Addasu Llenyddol
  • Rhywedd a Llenyddiaeth
  • Llenyddiaeth a Diwylliant y 18fed a'r 19eg Ganrif
  • Baledi a Llên Gwerin

Goruchwyliaeth gyfredol

Alexander Morgan

Alexander Morgan

Myfyriwr ymchwil