Ewch i’r prif gynnwys
Jonathan Morris  BA, MA, PhD, FHEA

Dr Jonathan Morris

(e/fe)

BA, MA, PhD, FHEA

Cyfarwyddwr Ymchwil

Ysgol y Gymraeg

Email
MorrisJ17@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 75394
Campuses
Adeilad John Percival , Ystafell 1.74, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Rwy'n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg ac yn arbenigo yn y Gymraeg ac ieithyddiaeth.

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar agweddau sosioieithyddol ar ddwyieithrwydd a chaffael ail iaith. Golyga hyn fod gennyf ddiddordeb mewn sut mae ieithoedd yn cael eu defnyddio a sut mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar ieithoedd mewn cyd-destunau dwyieithog ac ail iaith. Gallai'r ffactorau cymdeithasol hyn ddylanwadu ar sut mae siaradwyr dwyieithog yn cynhyrchu eu hieithoedd neu sut maent yn eu defnyddio ac yn teimlo amdanynt.

Ar hyn o bryd, rwy'n bartner academaidd ar brosiect Cynnau'r Brifysgol gyda chyfrifoldeb dros lunio'r rhaglen datblygiad proffesiynol ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar. Mae Cynnau yn datblygu ystod o weithgareddau datblygu arweinyddiaeth gyda'r bwriad o ysgogi newid sefydliadol ehangach ym maes diwylliant ymchwil. Ariennir y prosiect hwn gan The Wellcome Trust.

Diddordebau ymchwil

  • Sosioieithyddiaeth
  • Amrywio Iaith a Newid
  • Cymdeithaseg Iaith
  • Dwyieithrwydd
  • Caffael Ail Iaith
  • Seineg a ffonoleg

Cyhoeddiad

2024

2023

2022

2021

2020

2018

2017

2016

2015

2014

2013

2012

2010

  • Morris, J. 2010. Phonetic variation in Northern Wales: preaspiration. Presented at: Second Summer School of Sociolinguistics, Edinburgh, Scotland, 14-20 June 2010 Presented at Meyerhoff, M. et al. eds.Proceedings of the Second Summer School of Sociolinguistics, The University of Edinburgh. Edinburgh: University of Edinburgh pp. 1-16.

Articles

Book sections

Books

Conferences

Monographs

Thesis

Websites

Ymchwil

Themâu Ymchwil

Amrywio iaith a newid yn y repertoire dwyieithog

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar amrywio iaith a newid yn lleferydd siaradwyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg. Mae nifer o ddatblygiadau cymdeithasol yn yr ugeinfed ganrif wedi effeithio ar ddemograffeg siaradwyr Cymraeg. Yn gyntaf, mae mewnfudo a shifft ieithyddol wedi arwain at ostyngiad yn nifer y siaradwyr sy'n caffael Cymraeg ar yr aelwyd, yn enwedig mewn ardaloedd traddodiadol Cymraeg. Yn ail, mae sefydlu addysg cyfrwng Cymraeg wedi golygu cynnydd yn nifer y 'siaradwyr newydd' ar draws Cymru. Nod fy ymchwil yw archwilio i ba raddau y mae ffactorau ieithyddol ac allieithyddol (megis rhywedd, ardal, ac iaith ar yr aelwyd) yn dylanwadu ar amrywio seinegol a ffonolegol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Felly, mae'r gwaith yn cymhwyso dulliau ym maes sosioieithyddiaeth at ddwyieithrwydd a chaffael ail iaith ac yn cymharu sut mae siaradwyr yn cynhyrchu eu dwy iaith. Yn fwy diweddar, rwyf wedi bod yn edrych ar sut mae siaradwyr yn gwerthuso acenion Cymraeg (gyda Robert Mayr ac Ianto Gruffydd), caffael cymhwysedd sosioieithyddol ymhlith pobl ifanc mewn addysg cyfrwng Cymraeg (gyda Mercedes Durham a Katharine Young), ac amrywio arddulliadol yn y repertoire dwyieithog.

Cymdeithaseg dwyieithrwydd

Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn Cymdeithaseg Iaith. Rwyf wedi cyhoeddi ar agweddau tuag at y Gymraeg a'r defnydd o'r iaith ymhlith pobl ifanc mewn dwy dref yng Ngogledd Cymru ac roeddwn yn rhan o brosiect ymchwil a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ar drosglwyddo'r Gymraeg. Ffocws arall ar y llinyn ymchwil hwn yw sut mae hunaniaethau yn croestorri. Er enghraifft, rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect sy'n archwilio profiadau siaradwyr Cymraeg LHDTC+ a'r modd y mae eu hunaniaethau yn dylanwadu ar eu gilydd (gyda Sam Parker).

Caffael y Gymraeg fel ail iaith

Cyhoeddais erthygl ar agweddau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion tuag at leferydd dysgwyr (gydag Iwan Wyn Rees) ac rwyf hefyd wedi ymchwilio i sut mae dysgwyr y Gymraeg yn ynganu seiniau. Yn ehangach, mae gennyf ddiddordeb yn y dylanwad ffactorau cymdeithasol a seicolegol ar gaffael ail iaith ymhlith plant ac oedolion sy'n dysgu Cymraeg.

Adnoddau a seilwaith digidol

Rwyf wedi gweithio ar nifer o brosiectau sydd wedi creu adnoddau Cymraeg ac yn cyfrannu at seilwaith digidol yn yr iaith. Rwyf hefyd wedi arwain ar brosiectau i greu profion darllen a sillafu Cymraeg yn ogystal â thesawrws digidol.

Prosiectau cyfredol

Addysgu

Addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd

Rwy'n addysgu (neu wedi addysgu) modiwlau ar yr iaith Gymraeg ac ieithyddiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Sgiliau Llafar yn y Gymraeg
  • Defnyddio'r Gymraeg
  • Cyflwyniad i'r Gymraeg
  • Diwylliant y Gymraeg
  • Yr Ystafell Ddosbarth

Rwyf wedi bod yn arweinydd modiwl ar y modiwlau canlynol:

  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
  • Cymraeg y Gweithle a'r Gymuned
  • Yr Iaith Ar Waith
  • Sosioieithyddiaeth
  • Caffael Iaith
  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Rwyf hefyd yn addysgu ar yr MA mewn Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd ac yn cyflwyno hyfforddiant i fyfyrwyr PhD ar ddadansoddi data mewn ieithyddiaeth.

Addysgu blaenorol ym maes y Saesneg ac Ieithyddiaeth

Rwyf wedi addysgu ar y modiwlau canlynol mewn iaith ac ieithyddiaeth Saesneg:

  • Cyflwyniad i Ffonoleg
  • Dadansoddi Disgwrs
  • Amlieithrwydd Cymdeithasol
  • Tafodieithoedd y Saesneg

Addysgu blaenorol ym maes Cymraeg ail iaith

Rwyf wedi addysgu ar y cyrsiau canlynol ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg:

  • Cynllun Sabothol Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg
  • Y Gymraeg yn y Gweithle (Addysg Bellach)
  • TGAU Cymraeg Ail Iaith (Addysg Bellach)
  • Cymraeg i Oedolion

Bywgraffiad

Cwblheais BA mewn Astudiaethau Ffrangeg ac Almaeneg, MA mewn Ieithoedd ac Ieithyddiaeth, a PhD mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Manceinion. Yn ystod fy nghyfnod ym Manceinion, treuliais amser ym Mhrifysgol Bourgogne (Dijon, Ffrainc) a Phrifysgol Basel (y Swistir). Roedd fy ngwaith cynnar yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng iaith ac hunaniaeth yn y gwledydd lle siaredir Almaeneg.

Dechreuais weithio ar sosioieithyddiaeth a seineg (sosioseineg) yng nghyd-destun y Gymraeg yn ystod fy ngradd Meistr ac mae fy PhD yn archwilio dylanwad ffactorau ieithyddol a chymdeithasol ar leferydd siaradwyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg.

Ymunais ag Ysgol y Gymraeg fel Cynorthwyydd Ymchwil yn 2012. Cyn symud i Gaerdydd, gweithiais fel Cynorthwyydd Dysgu ym Mhrifysgol Manceinion ac fel Darlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Cambria, Wrecsam. Rwyf hefyd wedi gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil ar brosiectau a ariennir gan yr ESRC a'r Academi Brydeinig.

Rhwng Medi 2014 ac Awst 2019, fi oedd Darlithydd Ieithyddiaeth ac Ieithyddiaeth Gymhwysol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol y Gymraeg. Ers hynny, rwyf wedi bod yn Uwch-ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth a'r Gymraeg.

Anrhydeddau a dyfarniadau

  • Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer categori 'Arloesi'n Gyffredinol ar draws y Ffiniau', Gwobrau Darlithwyr Cyswllt y Coleg Cymraeg Cenedlaethol , 2019.
  • Rhestr fer Gwobr Aelod Staff Mwyaf Arloesol, Prifysgol Caerdydd, 2016.

Aelodaethau proffesiynol

  • Cymdeithas Ieithyddion Cymhwysol Prydain
  • Cymdeithas Brydeinig y Ffonetegwyr Academaidd
  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch

Adran a Gwasanaeth y Brifysgol

  • Cyfarwyddwr Ymchwil, Ysgol y Gymraeg (2022+)
  • Partner Academaidd, Prosiect Cynnau (2024-2026)
  • Cyd-drefnydd y Rhwydwaith Ymchwil Amlieithrwydd (2019-2023)
  • Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig, Ysgol y Gymraeg (2017-2022)
  • Cadeirydd, Cangen Prifysgol Caerdydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2018-2020)
  • Swyddog Moeseg Ymchwil, Ysgol y Gymraeg (2014-2017)
  • Cyd-drefnydd y Grŵp Darllen Sosioieithyddiaeth (2013-2019)