Ewch i’r prif gynnwys
Geoff Tansey

Geoff Tansey

Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus

Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Trosolwyg

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Anrhydeddus i Geoff Tansey gan yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym mis Chwefror 2017. Mae Geoff Tansey yn awdur annibynnol sy'n curadu'r Academi Systemau Bwyd mynediad agored ar-lein. Bu'n gadeirydd Comisiwn Fabian annibynnol ar Fwyd a Thlodi, Comisiwn blwyddyn o hyd a oedd yn nodi sut y gellir adeiladu system fwyd decach sy'n gweithio'n well i bobl ar incwm isel. Mae'n aelod o'r Cyngor Moeseg Bwyd, elusen sy'n darparu cyngor annibynnol ar foeseg bwyd a ffermio.