Ewch i’r prif gynnwys
Alan Netherwood

Alan Netherwood

Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus

Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Trosolwyg

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil er Anrhydedd i Dr. Alan Netherwood gan yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym mis Medi 2008. Mae wedi gweithio yng Nghymru ers 1993 i lywodraeth leol (Cyngor Caerdydd), academia (Canolfan Ymchwil BRASS (Prifysgol Caerdydd), Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a chyrff gwirfoddol ym meysydd datblygu cynaliadwy a newid yn yr hinsawdd. Bu'n gadeirydd ar rwydwaith swyddogion datblygu cynaliadwy llywodraeth leol Cymru SDCC am 3 blynedd a bu'n gwasanaethu ar Fwrdd Gwyddor Newid Hinsawdd Asiantaeth yr Amgylchedd y DU. Bu'n gymrawd ymchwil gwadd yn y Ganolfan BRASS ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2004 tra'n datblygu Ôl Troed Ecolegol Caerdydd, mae ganddo PhD mewn Rheolaeth Amgylcheddol o Brifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn ac MSc mewn Rheoli Adnoddau Naturiol o Brifysgol Caerlŷr. Mae ganddo amrywiaeth o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion ymarferwyr, llyfrau a phapurau cynhadledd yn y maes hwn. Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel ymgynghorydd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar eu Fframwaith Datblygu Cynaliadwy ac ar Newid Hinsawdd, gan ddarparu cefnogaeth polisi i'r Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector ac mae wedi cyd-ysgrifennu'r Adolygiad o Effeithiolrwydd Cynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyda Phrifysgol Caerdydd. Yn ddiweddar cafodd ei ethol yn Gyfarwyddwr Cynnal Cymru: Sustain Wales.