Ewch i’r prif gynnwys
Llion Roberts  FHEA

Dr Llion Roberts

FHEA

Uwch Ddarlithydd

Ysgol y Gymraeg

Email
RobertsLP1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 75304
Campuses
Adeilad John Percival , Ystafell 1.76, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Rwy’n ddarlithydd yn y Gymraeg.  Ymhlith fy niddordebau ymchwil ac addysgu y mae

  • Llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif a llenyddiaeth gyfoes (yn benodol barddoniaeth rydd a chynganeddol)
  • Rhyddiaith y bedwaredd ganrif ar bymtheg (yn benodol cofiannaeth)
  • Y cofiant, hunangofiant a llên bywyd
  • Ysgrifennu Creadigol a sgiliau ysgrifennu

Graddiais yn y Gymraeg a Hanes Cymru yn y Brifysgol hon cyn mynd ati i gwblhau traethawd MPhil ar feirniadaethau eisteddfodol Syr John Morris-Jones yn 2002. Bûm yn aelod o adran olygyddol Gwasg Prifysgol Cymru cyn cael fy mhenodi yn 2003 yn Gynorthwyydd Ymchwil ar y prosiect ‘Perfformio o’r Pulpud’ yma yn Ysgol y Gymraeg, sef astudiaeth o elfennau llafar a pherfformiadol pregethu dramatig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn 2011, dyfarnwyd imi radd PhD am draethawd ar ddatblygiad y cofiant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan roi sylw arbennig i gofiannau’r Parch Owen Thomas (Lerpwl) i’r pregethwyr amlwg a nerthol John Jones, Tal-y-sarn a Henry Rees. Rhwng 2009 a 2014, bûm yn cyfrannu at ddysgu’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yma yn Ysgol y Gymraeg.

Cyhoeddiad

2013

  • Rosser, S. et al. eds. 2013. Llên Cymru. Cardiff: University of Wales Press.

2011

1998

Gosodiad

Llyfrau

Bywgraffiad

Anrhydeddau a dyfarniadau

  • BA Anrhydedd yn y Gymraeg a Hanes Cymru Prifysgol Cymru Caerdydd 1997
  • MPhil Prifysgol Caerdydd 2002
  • PhD Prifysgol Caerdydd 2011
  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch 2014

Safleoedd academaidd blaenorol

  • Cynorthwyydd Ymchwil Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd
  • Tiwtor Iaith a Llenyddiaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd

Pwyllgorau ac adolygu

  • Bwrdd Ysgol y Gymraeg
  • Pwyllgor Dysgu ac Addysgu Ysgol y Gymraeg (Cadeirydd)
  • Bwrdd Astudiaethau (BA) Ysgol y Gymraeg (Cadeirydd)
  • Bwrdd Arholi Ysgol y Gymraeg
  • Panel Amgylchiadau Esgusodol Ysgol y Gymraeg (Cadeirydd)
  • Bwrdd Astudiaethau (MA) Ysgol y Gymraeg
  • Pwyllgor Ymchwil Ysgol y Gymraeg
  • Rhwydwaith Polisi Addysg a Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
  • Fforwm Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu Coleg y Celfyddydau
  • Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
  • Pwyllgor Llywio Ymgysylltu â Myfyrwyr Portffolio Addysg Prifysgol Caerdydd