Ewch i’r prif gynnwys
Catherine Phelps

Dr Catherine Phelps

(Mae hi'n)

Cydlynydd Llwybrau

Trosolwyg

Cwblheais fy PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2013. Roeddwn yn ymchwilio i ffuglen drosedd Gymreig yn Saesneg, ac yn taflu goleuni ar ysgrifenwyr a thestunau anghofiedig.

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys ysgrifennu Cymreig yn Saesneg, ffuglen drosedd, llenyddiaeth Gothig, ffeministiaeth a theori ôl-drefedigaethol.

Bywgraffiad

Dychwelais i addysg fel myfyriwr aeddfed, drwy ddosbarthiadau nos. Es i ymlaen i astudiaethau israddedig yn yr hyn a elwid Prifysgol Morgannwg bryd hynny, cyn ymrestru fel myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Yno, cwblheais radd Meistr cyn ymchwilio i ffuglen drosedd Gymreig yn Saesneg yn y pendraw, ar gyfer traethawd doethurol.

Ers i mi raddio, rydw i wedi cael profiad o ymgysylltu ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr: o gynnal gweithdai i athrawon sy’n ymweld o Ewrop, fel Tiwtor Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, gwirfoddoli yng nghlwb gwaith cartref ACE Trebiwt, darlithio ar gwrs gradd Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol De Cymru, ac fel Tiwtor Cymunedol ar gyfer Adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Aelodaethau proffesiynol

  • Rwy’n Gymrawd Cyswllt i’r Academi Addysg Uwch.
  • Ar hyn o bryd, rwy’n aelod o banel bwrsariaethau ar gyfer Llenyddiaeth Cymru.
  • Hefyd, rwy’n ddarllenydd ar gyfer Palgrave Macmillan, Cyngor Llyfrau Cymru, Studies in Gothic Fiction a [sic]: Journal of Literature, Culture and Literary Translation.