Ewch i’r prif gynnwys
Lowri Davies

Mrs Lowri Davies

Cynllun Sabothol Cenedlaethol ar gyfer Rheolwr Hyfforddiant Iaith Gymraeg

Ysgol y Gymraeg

cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth, dechreuais fy nghyfnod yn Ysgol y Gymraeg yn 1999 fel myfyrwraig MA gan gwblhau traethawd MA yn ymchwilio i'r mentrau iaith yng Nghymru a'r modd yr hyrwyddir y Gymraeg yng nghymunedau Cymru. Yn dilyn hynny fe'm penodwyd yn diwtor ac yna yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg lle'r oeddwn yn gyfrifol am ddysgu a datblygu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr ail-iaith yr Ysgol. Rwyf bellach yn gweithio fel Rheolwr Prosiect y Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg.  Mae'r Cynllun Sabothol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig rhaglen o gyrsiau hyfforddiant iaith i ddarlithwyr, athrawon a chynorthwywyr dosbarth.  Mae Prifysgol Caerdydd yn un o dri lleoliad sy'n gyfrifol am ddarparu cyrsiau'r Cynllun Hyfforddiant iaith Gymraeg.

Addysgu

Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg:

*Modiwlau ar gyfer athrawon cynradd sy'n addysgu'r Gymraeg fel ail iaith

*Modiwlau ar gyfer dartlithwyr, athrawon uwchradd a chynradd a chynorthwywyr dysgu sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

*Cyrsiau ar gyfer cynorthwywyr dysgu ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg

*Cyrsiau ar gyfer cynorthwywyr dysgu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg