Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at radd mewn cyfieithu

Students in an IT room wearing headphones

Caiff ein llwybr at radd mewn cyfieithu ei addysgu gan bobl sy’n meddu ar wybodaeth arbenigol yn y pwnc dan sylw, a’r gallu i gefnogi, ysbrydoli a rhannu’r hyn a ddysgwyd gyda chi.

Sut mae'n gweithio

Mae’r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau ac mae’n gyfwerth â 50% o flwyddyn gyntaf gradd. Y nod yw rhoi’r sgiliau ieithyddol a’r paratoad deallusol sydd eu hangen arnoch i astudio ar gyfer gradd mewn cyfieithu.

Gallwch ddewis canolbwyntio ar un iaith ac astudio anrhydedd sengl neu astudio dwy iaith fel cydanrhydedd.

Bydd angen i chi ennill 60 o gredydau mewn un iaith, neu 30 o gredydau yn y ddwy iaith ar gam E neu uwch.

Mae'r opsiynau modiwl iaith yn cynnwys

Ffrangeg

Almaeneg

Eidaleg

Sbaeneg

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl i gwblhau'r llwybr o fewn blwyddyn, ond gallwch gymryd mwy o amser os oes angen.

Cost

Gwybodaeth am gyllid ac arian.

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod mwy am y llwybr hwn cysylltwch â’r canlynol:

Ieithoedd