Ewch i’r prif gynnwys

Camau iaith

Rydym wedi datblygu amrywiaeth o gamau wrth astudio ieithoedd modern i bennu lefel gymhwysedd ar gyfer pob modiwl yn y llwybr at radd.

Mae ein llwybr at radd mewn ieithoedd modern yn gofyn i chi ddechrau ar gam E neu’n uwch, felly bydd angen bod gennych lefel benodol o gymhwysedd yn eich iaith neu ieithoedd dewisol.

Lefelau cymhwysedd

Gall penderfynu ar lefel eich cymhwysedd iaith fod yn anodd, ond rydym wedi datblygu cyfres o ddisgrifiadau i helpu:

Lefel Cymhwysedd a argymhellir wrth ymunoCam Lefel cymhwysedd a gyrhaeddwyd ar ddiwedd y modiwlCEFR
Yn ddiweddar, rydych wedi cwblhau Safon Uwch yn yr iaith a astudiwyd ac rydych yn barod i fynd gam ymhellach (astudio’n rhan-amser am bedair blynedd neu Safon Uwch yn yr iaith a astudiwyd). E Dylech feddu ar ystod ddigonol o iaith er mwyn gallu deall disgrifiadau a dadleuon am y rhan fwyaf o bynciau sy’n ymwneud â theulu, hobïau a diddordebau, gwaith, teithio a digwyddiadau cyfoes. Dylech allu adnabod geiriau anghyfarwydd o gyd-destun pynciau sy’n ymwneud â’ch maes neu ddiddordebau.Paratoi ar gyfer B1
Mae gennych wybodaeth dda iawn o’r iaith ac rydych am astudio cwrs ysgogol i gyfateb i’ch cymwyseddau a’u hymestyn (pum mlynedd o astudio'n rhan-amser neu gam E uwch). F Gydag ychydig o ymdrech, dylech allu cadw i fyny â thrafodaethau cyflym a thafodieithol. Dylech fod yn gallu deall gwybodaeth fanwl yn ddibynadwy.Paratoi ar gyfer B2
Mae gennych afael ardderchog ar yr iaith ac rydych yn ei defnyddio’n rheolaidd. Bydd y lefel hon yn gwella eich sgiliau iaith sydd bron yn frodorol (chwe blynedd o astudio’n rhan-amser neu gam F uwch). G Dylai fod gennych afael dda ar repertoire geiriadurol eang a gafael dda ar fynegiant idiomatig a thafodieitheg. Dylech fod yn gallu deall iaith yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol, gan gynnwys defnydd emosiynol, awgrymog a chellweirus.Paratoi ar gyfer

Beth i'w ddisgwyl ar bob cam

Cam E

Byddwch yn datblygu eich iaith lafar, glywedol ac ysgrifenedig ymhellach, er mwyn i chi allu mynegi eich hun yn hyderus wrth drafod y rhan fwyaf o bynciau cyffredinol, heb i chi orfod chwilio’n amlwg am eiriau, gan ddefnyddio rhai ffurfiau cymhleth ar frawddegau i wneud hynny.

Byddwch yn atgyfnerthu ac yn ehangu eich dealltwriaeth o strwythur yr iaith a diwylliant y gwledydd lle y caiff yr iaith ei siarad. Gellid cynnwys y themâu canlynol:

  • twristiaeth
  • bwyd a diod
  • Iechyd
  • Yr Undeb Ewropeaidd
  • sefydliad gwleidyddol.

Cam F

Byddwch yn datblygu eich sgiliau iaith llafar, clywedol ac ysgrifenedig er mwyn mynegi eich hun yn rhugl ac yn ddigymell. Byddwch hefyd yn cael cyflwyniad i sgiliau cyfryngu. Byddwch yn atgyfnerthu ac yn ehangu eich dealltwriaeth o strwythur yr iaith a diwylliant y gwledydd lle y caiff yr iaith ei siarad ymhellach.

Ymdrinnir ag amrywiaeth eang o bynciau a allai gynnwys y canlynol:

  • bywyd bob dydd
  • materion cyfoes
  • materion sy’n ymwneud â’r iaith a astudir
  • diwylliant
  • cymdeithas
  • gwleidyddiaeth

Cam G

Byddwch yn ehangu eich sgiliau iaith llafar, clywedol ac ysgrifenedig er mwyn datblygu gwybodaeth fanwl a dealltwriaeth effeithiol o strwythurau, cyweiriau ac egwyddorion ieithyddol. Bydd eich sgiliau cyfryngu yn cael eu hehangu ymhellach. Byddwch yn caffael medrusrwydd gweithredol effeithiol yn yr iaith a astudir sy’n galluogi cyfathrebu rhugl a digymell.

Gallai’r themâu a astudir gynnwys y canlynol:

  • diwylliant
  • llenyddiaeth
  • cyfryngau
  • materion cyfoes

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach cysylltwch â’r canlynol:

Ieithoedd