Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at radd mewn gofal iechyd

Healthcare students walking in a group

Mae ein llwybr at radd mewn gofal iechyd wedi cael ei lunio ar gyfer oedolion sy’n dychwelyd i addysg sydd am astudio rhan amser er mwyn gwneud cais i astudio gradd.

Addysgir modiwlau gyda’r nos ac ar benwythnosau. Byddwch yn astudio mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol. Ar ôl astudio’r llwybr byddwch yn gallu gwneud cais i astudio gradd israddedig yn y meysydd pwnc canlynol:

  • nyrsio oedolion
  • nyrsio iechyd meddwl
  • nyrsio pediatrig
  • bydwreigiaeth
  • therapi galwedigaethol
  • radiotherapi ac oncoleg
  • radiograffeg ddiagnostig
  • ffisiotherapi

Sut mae'n gweithio

Mae'r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau. Mae hyn yn cynnwys dau fodiwl craidd gorfodol, sy'n cynnwys 20 o gredydau yr un, a modiwlau opsiynol ychwanegol a fydd yn gyfwerth ag 20 o gredydau.

Rhaid bod ymgeiswyr sydd am gofrestru ar y llwybr hwn wedi ennill pum cymhwyster TGAU, graddau A-C/9-4. Dylai'r rhain gynnwys mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.

Ar gyfer y llwybr at radd Radiograffeg a Delweddu Diagnostig, mae’n rhaid i chi fod â phum cymhwyster TGAU â graddau A-C/9-4. Dylai’r rhain gynnwys Gwyddoniaeth Dwyradd (neu Ffiseg a phwnc gwyddoniaeth arall), Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (os aethoch i ysgol cyfrwng Cymraeg).

Ar gyfer y llwybr at radd Radiotherapi ac Oncoleg, mae’n rhaid i chi fod â phum cymhwyster TGAU â graddau A-C/9-4. Dylai'r rhain gynnwys Gwyddoniaeth ddwbl, Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (os aethoch i ysgol cyfrwng Cymraeg).

Mae angen ar ymgeiswyr Ffisiotherapi bydwreigiaeth fod â 5 TGAU, gradd A-C/9-4. Dylai'r rhain gynnwys Mathemateg, Cymraeg/Saesneg a Gwyddoniaeth (Bioleg, Cemeg neu Ffiseg).

Mae angen ar ymgeiswyr bydwreigiaeth fod â 5 TGAU, gradd A-C/9-4. Dylai'r rhain gynnwys Mathemateg, Cymraeg/Saesneg a Gwyddoniaeth (Bioleg, Cemeg neu Ffiseg).

Modiwlau’r llwybr

Modiwlau craidd

Modiwlau opsiynol

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl i gwblhau'r llwybr o fewn blwyddyn, ond gallwch gymryd mwy o amser os oes angen.

Cost

Gwybodaeth am gyllid ac arian.

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod rhagor am y llwybr hwn, ebostiwch eich ymholiad at Pathways@caerdydd.ac.uk.

Cofiwch ychwanegu enw a’r math o nyrsio sydd o ddiddordeb i chi ym mhennawd pwnc yr ebost (e.e. 'Eich Enw – Nyrsio Iechyd Meddwl')

Yn yr ebost cofiwch nodi rhif ffôn cyswllt a rhoi gwybod i ni a oes gennych y cymwysterau gofynnol (5 TGAU gan gynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg).

Os nad oes gennych y cymwysterau gofynnol, dywedwch wrthym pa gymwysterau sydd gennych.

Bydd aelod o'r Tîm Llwybrau yn ymateb i'ch ebost cyn gynted â phosibl.

Llwybrau at radd