Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu eich sgiliau astudio

Rydym yn cynnig help a chymorth gyda’ch astudiaethau.

Os ydych yn newydd i addysg uwch neu nad ydych wedi astudio ers peth amser, efallai y byddwch yn poeni am ddechrau eich aseiniad cyntaf. Os ydych ran o'r ffordd drwy gwrs, neu’n symud ymlaen i gwrs newydd, efallai y byddwch am ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau.

Beth bynnag yw eich anghenion o ran sgiliau astudio, gall tiwtor eich cwrs gynnig cymorth ac arweiniad. Gallwch hefyd lawrlwytho ein canllaw dysgu, a luniwyd ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion.

Canllaw dysgu

A learning guide for adults on part-time courses

Bydd yr adnodd hwn yn rhoi awgrymiadau astudio i gyflawni canlyniadau ac mae wedi’i ddylunio gyda dysgwyr oedolion mewn cof.

Cysylltwch â ni

Gall tiwtor eich cwrs gynnig cymorth ac arweiniad, neu gallwch gysylltu â’r tîm Addysg Barhaus a Phroffesiynol:

Dysgu Gydol Oes

Ymholiadau cyffredinol