Ewch i’r prif gynnwys

Newid neu ganslo cwrs

Mae rhai amgylchiadau lle y gallwn gynnig ad-daliad i chi neu newid eich cwrs.

Os caiff cwrs ei ganslo

Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu gwtogi ar gwrs. Gallai hyn ddigwydd os na fydd digon wedi cofrestru ar gyfer cwrs neu os bydd newid yn yr amgylchiadau. Pan fydd hyn yn digwydd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn neu rannol yn dibynnu ar b’un a gynhaliwyd unrhyw ddosbarthiadau.

Os ydych am dynnu'n ôl o gwrs

Os ydych am dynnu'n ôl o gwrs dylech roi gwybod i ni yn ysgrifenedig mor fuan â phosibl. Gallwch gyflwyno eich cais drwy'r post neu ebost i learn@caerdydd.ac.uk. Unwaith y bydd cwrs wedi dechrau, ni fyddwn yn rhoi ad-daliad os byddwch yn penderfynu tynnu’n ôl.

Gallwch ysgrifennu i roi gwybod i ni yr hoffech dynnu’n ôl, a byddwn yn gallu rhoi ad-daliad llawn os caiff hyn ei dderbyn o leiaf bum diwrnod cyn dechrau’r cwrs. Mae ffi weinyddol o £10 yn gymwys i bob ad-daliad.

Ar adegau prysur, gall gymryd hyd at bedair wythnos i brosesu ad-daliad.

Talu drwy randaliad

Os ydych am dynnu’n ôl o gwrs sydd eisoes wedi dechrau ac rydych yn talu mewn rhandaliadau, yna mae angen talu’r ail randaliad o hyd.

Mae taliad llawn ar gyfer y cwrs yn ofynnol ni waeth p’un a ydych wedi mynd i bob dosbarth ai peidio.

Ceisiadau am drosglwyddo

Unwaith y bydd cwrs wedi dechrau, efallai y gallwn gynnig eich trosglwyddo i gwrs arall o dan rai amgylchiadau. Gallai hyn fod am nad yw lefel y cwrs yn briodol, er enghraifft.

Dylech gyflwyno cais i drosglwyddo i gwrs arall yn ysgrifenedig. Ni chytunir ar geisiadau i drosglwyddo yn awtomatig ym mhob achos, a dylid cyflwyno ceisiadau drwy e-bost. Ffoniwch ni ar + 44 (0)29 2087 0000 os yw eich cais i drosglwyddo yn gais brys.

Os caniateir i chi drosglwyddo ac mae ffi’r cwrs newydd yr un peth neu’n is na’ch cwrs gwreiddiol, ni fydd tâl. Os yw ffi’r cwrs newydd yn uwch, yna mae’n rhaid talu’r balans yn llawn. Dim ond unwaith y byddwch yn gallu trosglwyddo ffi cwrs, ac mae trosglwyddiadau yn ddilys am 12 mis fel arfer.