Ewch i’r prif gynnwys

Polisïau Cymdeithasol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Byddwch yn ennill dealltwriaeth o bolisïau cymdeithasol pwysig wnaeth sefydlu’r wladwriaeth les; ac yn bwrw golwg ar bolisïau cyfredol sy'n effeithio ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys iechyd, addysg a thai.

Mae'r cwrs hwn yn fodiwl 20 credyd ar y rhaglen Llwybr at y Gwyddorau Cymdeithasol.

Dysgu ac addysgu

Caiff y cwrs ei addysgu'n wythnosol a bydd dwy Ysgol Dydd Sadwrn. Bydd 40 o oriau cyswllt. Yn ogystal, gofynnir i chi ddarllen a gwneud tasgau ymchwil er mwyn paratoi ar gyfer y dosbarth a'ch aseiniadau.

Bydd y strategaeth dysgu/addysgu ar gyfer y modiwl hwn yn rhoi pwyslais ar 'ddysgu’n weithredol' ar gyfer y dysgwr wrth ddatblygu dealltwriaeth o'r pwnc, a pha mor berthnasol yw’r pwnc i gymdeithas.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Caiff y modiwl ei asesu drwy draethawd 1,800 o eiriau a dau brawf yn y dosbarth, un gweledol ac un heb ei weld.

Deunydd darllen awgrymedig

You will be a member of the university library and have access to all these texts

  • Alcock, P. et al., (eds.) (2008) Student's Companion to Social Policy 3rd ed., Oxford: Blackwell.
  • Blakemore, K. & Griggs (2007) Social Policy 3rd ed., Maidenhead: Open University Press.
  • Bochel, H. et al., (eds.) (2009) Social Policy: Themes, Issues and Debates (2nd ed.), London: Prentice Hall.
  • Bomberg, E. et al., (eds.) (2011) The European Union: How Does it Work?, Oxford: Oxford University Press.
  • Kooiman, J. (ed.) (1993) Modern Governance: New Government-Society Interactions, London: Sage.
  • Rhodes, R. (1997) Understanding Governance: Policy Networks, Governance, Reflexivity and Accountability, Buckingham: Open University Press.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.