Ewch i’r prif gynnwys

Egwyddorion Marchnata a Strategaeth

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Lluniwyd modiwl Egwyddorion Marchnata a Strategaeth i roi dealltwriaeth i fyfyrwyr am gysyniadau sylfaenol marchnata a rheoli strategaethol a rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i'r athroniaeth sy'n gysylltiedig â newid strategol a arweinir gan y farchnad.

Mae hwn yn gwrs rhyngweithiol iawn sy’n datblygu sgiliau cyflwyno ar gyfer astudiaethau academaidd pellach. Mae'r cwrs newydd hwn yn agored i bawb ond gall hefyd gyfrannu at y llwybr at radd mewn cyfrifeg. Fe'i gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y rheini a fyddai'n hoffi cael blas o’r llwybr.

Gellir dilyn y cwrs hefyd fel cwrs annibynnol ar gyfer datblygu gyrfa, fel rhan o'ch datblygiad proffesiynol parhaus, neu ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn materion marchnata.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y cwrs drwy gymysgedd o:

  • ddarlithoedd a seminarau
  • gwaith tîm dan arweiniad myfyrwyr er mwyn creu strategaeth farchnata.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella.

Yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn yw datblygu a lansio strategaeth farchnata.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Principles of Marketing 4ydd argraffiad Ewropeaidd gan Kotler, Wong, Saunders ac Armstrong
  • Marketing: real people, real decisions argraffiad Ewropeaidd 1af gan Solomon, Marshal, Stuart, Barnes a Mitchell

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.