Ewch i’r prif gynnwys

Pobl mewn sefydliadau

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr ynghylch themâu, cysyniadau a damcaniaethau allweddol sy'n ymwneud ag astudio rheoli pobl mewn sefydliadau.

Rhoddir sylw arbennig i sefydliadau fel pwyntiau nodol rhyngweithio dynol o fewn y byd busnes, gan ganolbwyntio ar agweddau cymdeithasol a seicolegol y cysylltiadau hyn. Mae’r modiwl Pobl mewn Sefydliadau yn fodiwl 20 credyd ar y Llwybr at Reoli Busnes.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae Pobl mewn Sefydliadau yn fodiwl 20 credyd ar y rhaglen Llwybr at Reoli Busnes.

Dysgu ac addysgu

Sesiynau yn y dosbarth dan arweiniad tiwtor, seminarau dan arweiniad myfyrwyr. Bydd dwy ysgol dydd Sadwrn ar gyfer Sgiliau Astudio. Mae eich dysgu a’ch addysgu ar gyfer y modiwl hwn yn seiliedig ar astudiaethau hunangyfeiriedig.

Tutor-led classroom sessions, student-led seminars. There will be two Saturday schools for Study Skills. Your learning and teaching for this module is underpinned by self-directed study.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Ar y Rhaglen Llwybr, cewch asesiadau ffurfiol.

Bydd y rhain ar ffurf profion dosbarth, aseiniadau ysgrifenedig, dyddlyfr cwrs neu bortffolio. Mae eich asesiadau wedi’u llunio i’ch paratoi ar gyfer astudio pellach yng nghyd-destun gradd.

Deunydd darllen awgrymedig

Darllen Cychwynnol

  • Laurie J. Mullins 2013 10fed argraffiad Management and organisational behaviour Efrog Newydd: Prentice Hall
  • Fiona Wilson 2010 3ydd argraffiad Organizational behaviour and work : a critical introduction Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.