Ewch i’r prif gynnwys

Rôl y Frenhines yn yr Oesoedd Canol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd 6 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr Charlotte Pickard
Côd y cwrs HIS22A5217A
Ffi £235
Ffi ratach £188 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Beth oedd rôl y frenhines yn y byd canoloesol?

Roedd cenedlaethau blaenorol o haneswyr yn canolbwyntio ar frenhinoedd: llywodraethwyr gwrywaidd a’u cyflawniadau mewn gwleidyddiaeth a rhyfel. Diystyriwyd rôl breninesau yn aml. Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r syniad o Rôl y Frenhines.

Trwy gyfres o astudiaethau achos, yn amrywio o’r ddeuddegfed i’r bymthegfed ganrif ac yn edrych ar enghreifftiau o Loegr, Ffrainc a Sbaen, byddwn yn archwilio’r rôl a gyflawnwyd gan freninesau yn y gymdeithas ganoloesol.

Fe’ch cyflwynir i ysgolheictod diweddar cyffrous, sy’n adfer menywod brenhinol i’w priod le fel arweinwyr yn y byd canoloesol: mamau a chydweddogion a oedd yn gyfrifol am barhad llinellau brenhinol, ond a oedd yr un mor bwysig fel ffigyrau gwleidyddol cryf, llywodraethwyr eu hunain hyd yn oed, a noddwyr crefydd a diwylliant.

Byddwn yn archwilio breninesau canoloesol yng nghyd-destun ehangach menywod y cyfnod, gan holi i ba raddau y gallwn ail-greu eu rolau gan ddefnyddio adroddiadau ysgrifenedig gwrywaidd.

Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddulliau modern o astudio rôl y frenhines, ac yn archwilio ystod eang o ddeunydd ysgrifenedig a diwylliant materol sydd wedi goroesi, i ddeall grym y frenhines yng 'ngêm y gorseddi' yr oesoedd canol.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu ar-lein, trwy ddarlithoedd wedi'u recordio a seminarau a gweithdai ar-lein fydd yn cynnwys trafodaeth ddosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl.

Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn eich galluogi i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd y sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog.

Maes Llafur:

  • Deall menywod yn y byd canoloesol
  • Damcaniaethau am rôl y frenhines
  • Magu plant brenhinol: breninesau yn famau
  • Cydweddogion y frenhines: rôl y wraig frenhinol
  • Breninesau yn teyrnasu
  • Breninesau a diwylliant
  • Ailasesu'r astudiaeth o frenhiniaeth ganoloesol

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • dadansoddiad ffynhonnell fer
  • traethawd 1000 o eiriau

Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Bennett, Judith M. a Ruth Mazo Karras (goln), The Oxford Handbook of Women and Gender in Medieval Europe (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2013).
  • Castor, H., She-Wolves: The Women who Ruled England before Elizabeth (Llundain: Faber, 2010)
  • Carmi-Parsons, J. (gol.), Medieval Queenship (Stroud: Alan Sutton, 1994)
  • Duggan, A. J. (gol.), Queens and Queenship in Medieval Europe (Woodbridge: Boydell Press, 1997)
  • Earenfight, T., Queenship in Medieval Europe (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2013)
  • Hilton, L., Queens Consort: England’s Medieval Queens (Llundain: Weidenfeld & Nicolson, 2008)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.