Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Fioleg Ddynol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Beth y mae'r corff dynol yn ei gynnwys, a beth y mae’r rhannau gwahanol yn ei wneud? O'r croen a’r esgyrn i’r system imiwnedd ddynol, mae'r modiwl hwn yn anelu at gyflwyno’r modd y mae'r corff yn gweithio.

Byddwn yn ystyried ffisioleg ddynol, y system nerfol, rôl y galon, pibellau gwaed a’r gwaed, yr ysgyfaint a'r system resbiradol, a llawer mwy.

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ennill dealltwriaeth eang o fioleg ddynol. Mae hefyd yn fodiwl craidd ar y llwybr i radd mewn gofal iechyd.

Dysgu ac addysgu

Bydd yna ddarlithoedd, trafodaethau ac astudiaethau achos.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion yn y dosbarth. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur am y cwrs, neu lunio portffolio.

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Nid oes yna lyfr cwrs penodol, a bydd y tiwtor yn cyflenwi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig sy’n hanfodol ar gyfer y cwrs.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.