Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Economeg

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i hanfodion Economeg.

Bydd yn rhoi sylfaen i chi mewn micro-economeg yn gyntaf, yna mewn macro-economeg cyfanredol, ac mae’n dangos i fyfyrwyr sut gall deall elfennau sylfaenol micro a macro-economeg fod yn berthnasol iawn i fusnesau ac wrth wneud penderfyniadau busnes.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y cwrs hwn trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau mewn grwpiau bach. Mae dwy ysgol dydd Sadwrn.

Gwaith cwrs ac asesu

Ar y Rhaglen Llwybr, cewch asesiadau ffurfiol. Bydd y rhain ar ffurf profion dosbarth, aseiniadau ysgrifenedig, dyddlyfr cwrs neu bortffolio. Mae eich asesiadau wedi’u llunio i’ch paratoi ar gyfer astudio pellach yng nghyd-destun gradd.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Parkin, M. et al. 2014. Economics. 9th ed. Harlow, Essex: Pearson Education. Available at:  http://bit.ly/1S1Du3G
  • Gillespie, A. 2014. Foundations of economics. 3rd ed. Oxford: Oxford University Press Sloman
  • J. and Jones, E. 2011. Economics and the business environment. 3rd ed. Harlow: FT Prentice Hall Lipsey
  • R.G. and Chrystal, K. 2015. Economics. 13th ed. Oxford: Oxford University Press

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.