Ewch i’r prif gynnwys

Afiechydon ac Anhwylderau'r Ymennydd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn yn trafod hanes, datblygiad ac thriniaethau clefydau ac anhwylderau’r ymennydd.

Bydd y dull a fabwysiadwyd yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygiadau cyfredol yn ymwneud ag anhwylderau'r ymennydd, a bydd yn rhoi sylw arbennig i'r ffactorau moleciwlar a genetig sylfaenol sy'n gysylltiedig â'r clefydau hyn.

Pynciau a drafodir:

  • hanes, achosion a symptomau clefyd Huntington
  • hanes, achosion a symptomau clefyd Parkinson
  • hanes, achosion a symptomau clefyd Alzheimer
  • hanes, achosion a symptomau Sgitsoffrenia
  • problemau iechyd meddwl mewn anhwylderau niwrolegol
  • y broses ymchwil a dulliau gwyddonol wrth ymchwilio i anhwylderau niwrolegol
  • y broses dreialon clinigol ac enghreifftiau mewn clefydau niwrolegol

Mae'r cwrs hwn ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes, datblygiad ac thriniaethau clefydau ac anhwylderau’r ymennydd.

Gellir dilyn y cwrs fel modiwl dewisol ar y llwybr at radd mewn gofal iechyd.

Dysgu ac addysgu

Bydd darlithoedd, trafodaethau ac astudiaethau achos (20 awr). Defnyddir ystod lawn o gymhorthion gweledol a chewch adborth beirniadol ar eich adroddiadau ysgrifenedig.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Yn ystod y cwrs, efallai y gofynnir ichi wneud cyflwyniad neu gwblhau adroddiad, a bydd prawf dosbarth ar ddiwedd y cwrs.

Deunydd darllen awgrymedig

Bwriad y modiwl yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddysgwyr am ymchwil gyfredol ym maes clefydau niwrolegol, felly bydd cyfeiriadau perthnasol a newydd yn cael eu cyflwyno trwy gydol y darlithoedd.

Dyma werslyfrau a chanllawiau cyffredinol i helpu i roi trosolwg:

  • J. Beatty Principles of Behavioral Neuroscience (1995) Wm. C. Brown Communications Inc. ISBN: 0697127419
  • M.-Marsel Mesulam (2000) Principles of Behavioral and Cognitive Neurology. Gwasg Prifysgol Rhydychen, UDA 198 Madison Avenue, Efrog Newydd. ISBN: 0195134753
  • D Dickson and R.O. Weller (2011) Neurodegeneration: The Molecular Pathology of Dementia and Movement Disorders. John Wiley & Sons. ISBN: 1405196939
  • G. Goetz MD ac E.J. Pappert MD. (2007) Textbook of Clinical Neurology. Saunders; 3ydd argraffiad. ISBN: 1416036180

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.