Ewch i’r prif gynnwys

Seicoleg Ddatblygiadol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Beth sy'n ein gwneud ni fel yr ydym? Mae babandod, glaslencyndod, bod yn oedolion a henaint oll yn cyflwyno gwahanol heriau.

Bydd cyfleoedd am drafodaethau, arsylwadau a datblygu a gwella eich sgiliau astudio. Mae'r cwrs hunangynhwysol hwn yn gyflwyniad delfrydol i'r maes pwnc.

Mae’r cwrs hwn yn agored i bawb, ac mae’n tybio nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol. Gellir dilyn y cwrs fel modiwl dewisol ar y llwybr at radd mewn gofal iechyd.

Dysgu ac addysgu

  • Cyflwyniad i'r Cwrs – Beth yw seicoleg datblygu? / Canllaw Asesu
  • Datblygiad Gwybyddol – Piaget / Datblygiad Moesol – Kohlberg
  • Datblygiad Diwylliannol-gymdeithasol – Vygotsky
  • Ymddygiadaeth – Watson a Skinner
  • Theori Seicoddadansoddol – Freud / Dulliau Seicogymdeithasol
  • Gweithdy aseiniadau / Cyfeirnodi Harvard
  • Datblygu Iaith
  • Gwerthuso Astudiaeth Ymchwil – cwestiynu dulliau ymchwil cymdeithasol
  • Theori Cam Bywyd – Erikson / Theori Cwrs Bywyd
  • Trosolwg o'r cwrs / Cyflwyno aseiniad

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn yw: Cyfnodolyn a Thraethawd Myfyriol - Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Gleason, J. B. (2005). (Ed.), The development of language (sixth edition). Boston: Pearson
  • Harris, M. and Butterworth, G. (2002). Developmental psychology. A student's handbook. Hove: Psychology Press.
  • Kehily, M. J. (Ed). (2009). An introduction to childhood studies (second edition). Maidenhead: Open University Press
  • Wood, C., Littleton, K. and Sheehy, K. (2006). Developmental Psychology in Action. Oxford: Blackwell
  • Zeedyk, M. (2008). What's life in a baby buggy like?: The impact of buggy orientation on parent-infant interaction and infant stress

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.