Ewch i’r prif gynnwys

Almaeneg Uwch – Cam H

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich iaith lafar, glywedol ac ysgrifenedig ymhellach er mwyn i chi allu mynegi eich hun yn rhugl ac yn ddigymell.

Byddwch yn atgyfnerthu ac yn ehangu eich dealltwriaeth o strwythur Almaeneg ymhellach drwy ddadansoddi a thrafod materion diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol gwledydd lle siaredir Almaeneg. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar siarad ac yn y dosbarth fe gewch chi ddigon o gyfle i ymarfer eich sgiliau sgwrsio.

Byddwch yn gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; byddwch yn darllen testunau papurau newydd/cylchgronau ac yn cwblhau ymarferion, a fydd yn gwella eich geirfa a'ch gwybodaeth o ramadeg. Bydd detholiad o ddeunydd dilys yn cael ei ddefnyddio, gan gynnwys y canlynol: Die Zeit, FAZ, Der Spiegel, FOCUS, sianeli teledu a radio Almaenig.

Bydd y cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau a fydd yn cael eu haddasu i gyd-fynd â diddordebau’r myfyrwyr.

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os oes gennych wybodaeth ddigonol dda iawn o’r Almaeneg ac eisiau cwrs ysgogol i gyfateb i’ch galluoedd a’u hymestyn (saith mlynedd o astudio rhan-amser a/neu Almaeneg Uwch Cam G).

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs. Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Defnyddir deunydd dilys ar ffurf taflenni i'w dosbarthu.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.