Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at radd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth

Mature student working

Mae astudio ein llwybr ‘Naratifau Mewnol’ yn eich galluogi i symud ymlaen i radd israddedig gydag Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol.

Llwybr Naratifau Mewnol

Addysgir modiwlau gyda’r nos ac (ar gyfer rhan o dymor yr haf) ar benwythnosau, ac nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol arnoch i wneud cais.

Bydd y llwybr Naratifau Mewnol yn cyflwyno pynciau hynod ddiddorol, ac yn sicrhau’r dysgu a’r cymorth y bydd eu hangen arnoch i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a gwneud y gorau o'ch galluoedd. Byddwch yn dysgu am y straeon a ddefnyddiwn i wneud synnwyr o fywyd, y codau a’r patrymau sy’n ein cysylltu â’n gilydd, a’r cwestiynau mawr sydd wedi poeni ein meddylwyr mwyaf ers miloedd o flynyddoedd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt efallai wedi cael addysg ffurfiol ers sawl blwyddyn.

Sut mae’n gweithio

Mae’r llwybr Naratifau Mewnol yn cynnwys 60 o gredydau ac mae’n gyfwerth â 50% o flwyddyn gyntaf gradd. Y nod yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch, a bydd yn gwarantu cyfweliad i chi astudio gradd gyda’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth .

Cam un

Byddwch yn astudio un modiwl craidd sy’n werth 10 o gredydau.

Cam dau

Byddwch naill ai yn astudio pum modiwl opsiynol gwerth 10 o gredydau o’r rhaglen llwybr (gall hyn hefyd gynnwys modiwlau craidd eraill), neu bedwar modiwl opsiynol gwerth 10 o gredydau o’r rhaglen llwybr ac un cwrs gwerth 10 o gredydau priodol (ar ôl ymgynghori gyda’r Darlithydd Cydlynol).

Os cewch eich derbyn ar gwrs gradd ym Mhrifysgol Caerdydd, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer trosglwyddo credydau neu’r hyn a elwir yn Saesneg yn ‘advanced standing’. Mae hyn yn golygu y bydd y 60 o gredydau a enillir o’r rhaglen llwybr Naratifau Mewnol yn cyfrannu’n uniongyrchol at flwyddyn gyntaf eich gradd.

Modiwlau’r llwybr

Core modules

Optional modules

These usually change every academic year. 2023/24 optional modules included:

Hyd

Mewn amgylchiadau arferol, mae myfyrwyr yn gorffen y llwybr Naratifau Mewnol o fewn blwyddyn. Gallwch hefyd gymryd hyd at dair blynedd i gwblhau’r llwybr os bydd angen.

Cost

Gwybodaeth am gyllid ac arian.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod mwy am y llwybr Naratifau Mewnol cysylltwch â:

Dr Michelle Deininger

Dr Michelle Deininger

Cyfarwyddwr Dros Dro Dysgu Gydol Oes

Email
deiningermj@caerdydd.ac.uk
Telephone
029 2087 0000