Ewch i’r prif gynnwys

Dysgwch iaith newydd dros yr haf

Ieithoedd yn ystod yr haf
Ieithoedd yn ystod yr haf

Yr haf hwn rydym yn cynnig cyrsiau iaith dwys mewn Tsieinëeg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Wcreineg. Mae ystod o lefelau ar gael o ddechreuwyr i rai mwy datblygedig.

Bydd y cyrsiau'n cael eu cynnal dros gyfnodau o wythnos neu bythefnos yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf a byddan nhw’n ddwys ac yn brofiad braf! Bydd ein cyrsiau sgwrsio iaith yn cael eu haddysgu'n bersonol. Bydd y cwrs Wcreineg yn cael ei gyflwyno ar-lein. Gan diwtoriaid arbenigol sy'n siarad yn frodorol. Disgwyliwch ddysgu iaith yn gyflym mewn dosbarth rhyngweithiol a chalonogol.

I ddathlu, rydym yn lansio cystadleuaeth lle gallwch ennill cwrs yn rhad ac am ddim. I gystadlu mae angen i chi gwblhau arolwg byr iawn.

Cyrsiau sydd ar gael

Eidaleg: Sgwrsio i Ddechreuwyr Llwyr

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn medru gair o Eidaleg.

Ffrangeg i Ddechreuwyr Llwyr

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os nad ydych yn medru gair o Ffrangeg (neu ychydig bach yn unig).

Ffrangeg: Gwella eich Sgiliau Sgwrsio

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os gallwch ddeall a defnyddio ymadroddion cyfarwydd a hynod sylfaenol i ddiwallu anghenion pendant.

Ffrangeg: Sgwrsio Canolradd

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os ydych wedi gwneud 3 blynedd o astudiaethau rhan-amser (neu 4 blynedd, ond yn teimlo bod eich sgiliau siarad yn wan o hyd) ac rydych yn gallu cyfathrebu wrth wneud tasgau arferol lle mae angen cyfnewid gwybodaeth uniongyrchol ar faterion cyfarwydd a chyffredin.

Ffrangeg: Sgwrsio Uwch

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os ydych wedi treulio sawl blwyddyn o astudiaethau rhan-amser a/neu os oes gennych eisoes lefel dda o Ffrangeg a hoffech ymarfer eich sgiliau sgwrsio ymhellach.

Gwella eich Eidaleg

Mae'r cwrs dwys hwn ar eich cyfer chi os ydych chi wedi mynychu blwyddyn o astudio rhan-amser neu os oes gennych wybodaeth sylfaenol iawn o'r Eidaleg.

Introduction to Chinese

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sydd eisiau dysgu Tsieinëeg ar y lefel ddechreuol.

Sbaeneg i Ddechreuwyr Llwyr

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn medru gair o Sbaeneg.

Sbaeneg i Ddechreuwyr Uwch

Mae’r cwrs dwys hwn yn addas i chi os ydych wedi gwneud blwyddyn o astudiaethau rhan-amser neu os gwnaethoch astudio lefel ‘O’ (TGAU) rhydlyd yn yr Almaeneg.

Sbaeneg Sgyrsiol Ganolradd

Mae’r cwrs dwys hwn yn addas i chi os ydych wedi gwneud 3 blynedd o astudiaethau rhan-amser ac rydych yn gallu cyfathrebu wrth wneud tasgau arferol lle mae angen cyfnewid gwybodaeth uniongyrchol ar faterion cyfarwydd a chyffredin.

Sbaeneg Sgyrsiol Uwchraddol

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os ydych wedi treulio sawl blwyddyn (6+) o astudiaethau rhan-amser a/neu os oes gennych eisoes gwybodaeth dda o Sbaeneg a hoffech ymarfer eich sgiliau sgwrsio ymhellach.

Wcreineg: Iaith a Diwylliant

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i iaith Wcreineg i chi a bydd yn eich galluogi i gynnal sgwrs sylfaenol iawn. Bydd hefyd yn rhoi cipolwg i chi ar ddiwylliant Wcreinaidd.

Cyrsiau Cymraeg i oedolion

Rydym yn cynnig sesiynau rhagflas yn ogystal â chyrsiau i ddechreuwyr hyd at gyrsiau i siaradwyr Cymraeg rhugl a fyddai’n hoffi gwella eu Cymraeg.