Ewch i’r prif gynnwys

Rhesymau dros astudio gyda ni

Grŵp o fyfyrwyr o’n rhaglen Llwybr at Radd
Grŵp o fyfyrwyr o’n rhaglen Llwybr at Radd.

Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gyrsiau rhan-amser ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol ar bob lefel ac ar adegau sy’n addas i chi.

P’un a ydych chi’n astudio gyda ni er mwyn datblygu’n bersonol, i wella eich rhagolygon gyrfa, neu i ddatblygu eich gwybodaeth am bwnc rydych chi’n ymddiddori ynddo, gallwch ddisgwyl addysg hyblyg o’r safon uchaf.

Dysgu sy’n gweddu i chi

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer llawer o’n cyrsiau, yr oll yr ydych chi ei angen yw diddordeb mewn pwnc a pharodrwydd i’w astudio yng nghwmni pobl eraill.

Am ein bod am ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi astudio gyda ni, trefnir cyrsiau yn ystod y dydd, gyda’r nosau ac ar benwythnosau. Mae nifer o gyrsiau’n cael eu hailadrodd drwy gydol y flwyddyn.

Mae rhai cyrsiau ar gael ar-lein, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio o gartref.

Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad ar gyfer ein holl fyfyrwyr, Cysylltwch â ni i drafod unrhyw ofynion sydd gennych gyda’n Ymgynghorydd Anabledd, p’un a ydynt yn ymwneud â mynediad i adeiladau, neu gymhorthion dysgu.

Nid yw hi byth rhy hwyr i ddechrau gwneud rhywbeth rydych chi wedi bod yn breuddwydio amdano drwy gydol eich oes.

Ekaterina, cyn fyfyriwr Cyfieithu ar y pryd mewn Gwasanaeth Cyhoeddus

Profiad y myfyrwyr

Byddwch yn cael eich addysgu gan diwtor Prifysgol Caerdydd sy’n arbenigo yn eu pwnc ac sydd â phrofiad mewn dysgu oedolion mewn addysg. Byddant yn eich cefnogi ac yn cynnig arweiniad i chi wrth i chi astudio.

Fel arfer, mae dosbarthiadau’n fach, sy’n ei gwneud hi’n haws cynnal trafodaethau ac sy’n galluogi mwy o amser i’r tiwtor roi sylw i’ch anghenion unigol chi.

Mae ymdeimlad cryf o gymuned yn perthyn i’n cyrsiau, gan roi’r cyfle i chi gyfarfod pobl newydd a chyfrannu at drafodaethau diddorol.

Hefyd, mae cyfleoedd i ddod ynghyd gyda myfyrwyr eraill y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae digwyddiadau rhad ac am ddim yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys darlithoedd cyhoeddus, digwyddiadau am bynciau penodol, diwrnodau agored a’n seremoni wobrwyo flynyddol.

Gallwch weld ein dewisiadau o’r digwyddiadau am yr wythnosau sydd i ddod.

Rwyf wedi meithrin hyder yn fy ngallu fy hun yn fy maes pwnc. Rwyf hefyd wedi cyfarfod rhai pobl anhygoel ac wedi datblygu sawl cyfeillgarwch gydol oes.

Lex Lamprey, cyn fyfyriwr Archwilio'r Gorffennol a Seryddiaeth

Cymwysterau a chredydau’r Brifysgol

Gallwch ennill credydau tuag at gymwysterau pan fyddwch yn cwblhau’r gwaith a’r asesiadau gofynnol.

Mae’r credydau hyn yn rhan o gynllun cenedlaethol, sy’n golygu eu bod yn cael eu cydnabod gan y rhan fwyaf o brifysgolion a sefydliadau addysgol. Mae hyn yn ddefnyddiol pan fyddwch am barhau â’ch astudiaethau mewn man arall.

Rydym ni wedi datblygu nifer o lwybrau i'ch helpu chi i astudio am radd. Mae ein rhaglen llwybrau'n ddewis amgen i gymwysterau Safon Uwch a mynediad gan ei bod yn cael ei haddysgu a'i hasesu mewn ffyrdd tebyg i gyrsiau israddedig blwyddyn gyntaf.

Mae wedi bod yn llafur cariad astudio rhan-amser dros y chwe blynedd diwethaf. Ni allaf ddisgwyl i wisgo fy nghap a’m gwisg graddio a dweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi fy helpu i wireddu fy mreuddwyd oherwydd mae’n sicr wedi newid fy mywyd.

Hayley Bassett, cyn fyfyriwr Archwilio'r Gorffennol

Cyfleusterau ac adnoddau’r Brifysgol

Pan fyddwch yn ymrestru ar gwrs, rydych chi’n dod yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd am gyfnod eich astudiaeth. Mae hyn yn golygu fod gennych chi fynediad at ostyngiadau myfyrwyr, ein llyfrgelloedd, cyfrifiaduron, labordai iaith, ac ystafell cyfrifiadura.

Gostyngiadau myfyrwyr

Fel myfyriwr, mae gennych fynediad llawn at gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol am gyfradd gostyngedig.

Rydych hefyd yn cael cyfraddau myfyrwyr ar feddalwedd cyfrifiadur penodol gan rai cyflenwyr, a gostyngiadau gyda amrywiaeth eang o gwmnïau wedi i chi brynu cerdyn gostyngiad NUS.

Llyfrgelloedd

Cewch aelodaeth rhad ac am ddim i unrhyw un o lyfrgelloedd y Brifysgol. Mae hyn yn golygu y gallwch fenthyg hyd at chwe eitem o unrhyw un o’n llyfrgelloedd. Gallwch hefyd fynychu gweithdai sgiliau sy’n dangos i chi sut i gael mynediad at yr adnoddau dysgu sydd ar gael a’u defnyddio.

Mae nifer o’n cyrsiau’n cael eu cynnal yn Adeilad John Percival, sydd y drws nesaf i Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol.

Mynediad at gyfrifiaduron a labordai

Mae’r holl gyrsiau yn rhoi cyfrif cyfrifiadur myfyriwr rhad ac am ddim i chi, a gallwch fewngofnodi ar y campws neu gartref. Mae hyn yn rhoi mynediad i chi i’r canlynol:

  • ebost a chalendr Outlook
  • catalog ar-lein y llyfrgell
  • ein hamgylchedd rhith-ddysgu ar-lein
  • cyhoeddiadau a newyddion
  • mynediad i gymunedau ar-lein.

Mae gennym ddau labordy iaith digidol rhyngweithiol, ac rydym yn defnyddio’r rhain yn helaeth i wella sgiliau siarad a gwrando.

Mae hon hefyd yn ystafell benodol ar gyfer cyrsiau datblygu’r we.

Rhagor o wybodaeth am am y cyfleusterau hyn.