Ewch i’r prif gynnwys

Sut i gofrestru

Rydym yn argymell eich bod yn ymrestru cyn gynted ag y gallwch am unrhyw gyrsiau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.

Lle bo’n bosibl, rydym yn gofyn i chi ymrestru cyn dechrau’r dosbarth cyntaf oherwydd:

  • mae cyrsiau poblogaidd yn llenwi’n gyflym
  • gallai cyrsiau gydag ymgeiswyr annigonol gael eu canslo, yn enwedig ar gyfer Ysgolion Diwrnod.

Byddwn yn cysylltu â chi os na allwn dderbyn eich cais am unrhyw reswm.

Ymrestru ar-lein

Gallwch chwilio neu bori ein cyrsiau i ddod o hyd i’r cwrs yr hoffech chi ymrestru ar ei gyfer.

Cofrestrwch ar-lein os ydych yn talu ffi llawn neu ffi ratach. Gallwch wneud hyn drwy glicio ar ‘Cofrestru nawr’ ar y cwrs a ddewiswyd gennych er mwyn lansio’r broses

Noder mewn achosion prin y gallai cwrs lenwi yn ystod y broses ymrestru. Os bydd hyn yn digwydd bydd aelod o staff yn cysylltu â chi i drefnu ad-daliad neu drosglwyddo i gwrs arall.

Ymrestru drwy ebost

Gallwch hefyd ymrestru ar gwrs drwy lawrlwytho ffurflen ymrestru a’i dychwelyd i ni drwy ebost.

Rhagor o wybodaeth am ymrestru drwy ebost.

Os ydych yn gwneud cais i ymrestru ar gyfer cynllun Hepgor Ffioedd HEFCW, wedi gwneud cais am arian ar gyfer ffioedd dysgu drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, neu os hoffech dalu am eich mewn rhandaliadau, lawrlwytwch ein canllaw a ffurflen ymrestru (PDF).