Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau

Chwiliwch neu porwch drwy ein cyrsiau a chymerwch y cam cyntaf at ddysgu rhywbeth newydd heddiw.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn llwybr rhan amser at astudiaethau israddedig, darllenwch fwy am ein Llwybrau Gradd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dod o hyd i'ch cwrs

Pynciau

Three students in a row, one looking directly at the camera.

Busnes a Rheolaeth

Gallwch achub y blaen mewn marchnad cyflogaeth ddynamig sy'n newid yn gyson drwy gyfoethogi eich cyflogadwyedd a'ch ymarfer gweithio.

Man in front of a computer

Astudiaethau Cyfrifiadurol

Os mai ychydig iawn o wybodaeth am gyfrifiadura sydd gennych chi, dylai ein cyrsiau roi sylfaen gref i chi mewn meysydd amrywiol a diddorol. Caiff cronfeydd data, rhaglennu, dylunio gwe a sgriptio eu cynnwys.

Mature student working

Dyniaethau

Gall ein cyrsiau mewn ysgrifennu creadigol a'r cyfryngau, llenyddiaeth Saesneg, hanes, cerddoriaeth ac athroniaeth eich helpu i ymgysylltu â'r byd, archwilio diwylliant a chyfoethogi eich sgiliau meddwl beirniadol.

Female student  wearing head pones and using a computer

Ieithoedd

Cyrsiau i ddysgwyr ar unrhyw lefel, ar draws ieithoedd fel Sbaeneg, Ffrangeg, Tsieinëeg, Arabeg, Almaeneg, Eidaleg a Japaneg. Rydym ni hefyd yn cynnig cyrsiau mewn cyfieithu a chyfieithu ar y pryd mewn gwasanaeth cyhoeddus.

Students discussing work in a lesson

Gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol a'r gyfraith

Gall y cyrsiau hyn eich helpu i ddeall sut y cawn ein llywodraethu a phwy yn ein cymdeithas sy'n gwneud y rheoliadau a'r rheolau rydyn ni'n byw gyda nhw, o Gymru i'r cyd-destun ehangach.

A female student in an IT lab

Gwyddoniaeth a’r Amgylchedd

Mae gwyddoniaeth yn rhan o wead ein cymdeithas, ac mae'r gallu i gwestiynu a deall sut mae pethau'n ymddwyn yn rhan fawr o'r hyn sy'n ein gwneud yn ddynol.

Female student in front of a computer

Astudiaethau Cymdeithasol

Amrywiaeth o gyrsiau mewn cymdeithaseg, seicoleg a chwnsela i'ch herio a'ch ysgogi.