Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg

Rydym yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o optometryddion, ac mae ein hymchwil arloesol wedi datblygu dealltwriaeth fyd-eang o anhwylderau golwg i wella ansawdd bywyd ledled y byd. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol a byd-eang i ddarparu'r gofal llygaid gorau a datblygiadau arloesol mewn iechyd llygaid.

Cyrsiau

Cyrsiau israddedig, addysg ac ymchwil ôl-raddedig a chyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus

Ymchwil yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg

Rydym ni’n hwyluso’r gwaith o ddatgelu, diagnosio, monitro a thrin anhwylderau ar y golwg drwy ymchwil arloesol.

Rhagor o wybodaeth am astudio Optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Child wearing glasses. Photo credit: Mike O'Carroll

Gweithio gyda’r gymuned

Mae gweithio gyda chymunedau lleol, byd-eang a difreintiedig yn rhan o bwy ydym ni. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymuned, drwy hyrwyddo a gwella gofal llygaid i'r cyhoedd.

Vision Science

Cyfleusterau ac offer

Mae ein hysgol wedi'i lleoli mewn cyfleuster pwrpasol gwerth £22 miliwn gyda chlinig llygaid adeiledig sy'n galluogi addysgu, ymarfer clinigol ac ymchwil o'r radd flaenaf.

Myfyriwr ôl-raddedig yn defnyddio sganiwr meysydd gweledol

Optometryddion Prifysgol Caerdydd

Mae ein clinig llygaid ar y safle yn darparu asesiad arbenigol, triniaeth arbenigol a chyngor dibynadwy i bawb yn ein cymuned.


Right quote

Mae dod i Gaerdydd wedi bod yn bennod anhygoel yn fy hanes i. Mae ‘gweld’ yn bwnc diddorol ac mae Optometreg yn cyfuno fy nghariad at Ffiseg, datrys problemau a gweithio gyda phobl. Mae gan yr adeilad rwydwaith o lecynnau clinig modern sydd ag offer helaeth ar gyfer gwneud gwaith clinig ac ymchwil. Mae’r adeilad, a gostiodd £22 miliwn, yn ysbrydoliaeth.

Libby, Optometreg (BSc)

Newyddion

Ein rhaglenni MOptom newydd sy'n rhoi'r wybodaeth wyddonol a chlinigol i chi gofrestru fel optometrydd gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol.