Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau ac offer

Opto research

Mae ein hysgol wedi'i lleoli mewn adeilad Optometreg pwrpasol a blaengar.

Yn 2008, fe wnaethon ni ddathlu agoriad swyddogol adeilad Optometreg yn Heol Maindy. Derbyniodd y prosiect fuddsoddiad unigol mwyaf y DU mewn gofal iechyd; cyfanswm o £22M.

Mae'r cyfleuster ag adeiladwyd i bwrpas yn dod ag ymchwil, dysgu a chlinigau cleifion at ei gilydd mewn un lle. Mae hyn yn ein galluogi ni i arwain y ffordd mewn trosi ymchwil i well gofal i gleifion.

Mae'r adeilad ysgol newydd yn gallu darparu gwasanaeth ardderchog a dyfodol calonogol ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru. Credaf fod adeilad newydd yr ysgol yn esiampl nid yn unig i Gymru ond hefyd i'r DU, Ewrop a'r byd.

Ruth Marks Cyfarwyddwr RNIB Cymru

Dyma ychydig o fanylion am yr offer blaengar rydym yn ei ddefnyddio yn ein hymchwil isod:

Labordai 'Vision Science Bioimaging' (VSBL)

Mae VSBL yn labordy cydweithredol sy'n ymgysylltu â'r ymchwilwyr ar draws Prifysgol Caerdydd a thu hwnt mewn dulliau bioddelweddu a thechnegau ag ysbrydolwyd gan anghenion ymchwil golwg. Rydym yn croesawu ymholiadau gan gyfranwyr posibl.

Darllenwch mwy yn Saesneg am y Labordai VSBL

Meicrosgopau

Rydym yn defnyddio meicrosgopau electron i astudio proteinau a moleciwlau eraill sy'n y llygad sy'n chwyddo'r hyn a welir i raddfa uchel iawn (i fyny at x 50,000). Mae gennym gyfres gynhwysfawr o feicrosgopau yn cynnwys tri pheiriant Zeiss a Jeol Scanning a meicrosgopau Electron Darlledu yn cynnwys peiriant Darlledu 200KV.

Yn ogystal mae gennym Feicrosgop 3View Electron Darlledu sy'n caniatáu chwyddiad uchel o feinweoedd mewn tri dimensiwn. Dyma'r unig un o'i bath yn y DU sydd yn arbennig ar gyfer ymchwil llygaid. Mae hefyd yn ein caniatáu ni i ddeall strwythurau tri dimensiwn meinweoedd sy'n ein helpu i greu triniaethau newydd i glefydau llygaid.

Mae'r offer hwn wedi arwain at nifer o gyhoeddiadau proffil uchel ac incwm grant sylweddol.

Diffreithiad pelydr-x 'Synchrotron'

Mae gan fyfyrwyr a staff yr Ysgol fel ei gilydd y cyfle i ddefnyddio cyfleusterau diffreithiad pelydr-x 'synchrotron' trwy Ewrop ac mor bell i ffwrdd â Japan. Mae'r cyfleusterau hyn yn defnyddio ymbelydredd 'synchrotron' i gynhyrchu pelydrau-x dwys iawn ar gyfer dadansoddiad strwythurol o feinwe biolegol.

Defnyddiwn y rhain i gynnal gwaith ymchwil sy'n astudio sail strwythurol tryloywder a ffocws pŵer y gornbilen a'r lens. Gallwn hefyd ymchwilio i newidiadau strwythurol sy'n achosi clefydau megis ffurfio cataract a keratonconus.