Ewch i’r prif gynnwys

OPT060: Prosiect ymchwil MSc

Mae'r modiwl hwn yn rhan orfodol o'r MSc mewn Optometreg Glinigol, lle bydd angen cwblhau prosiect drwy astudiaeth uwch neu ymchwil.

Er mwyn cwblhau’r modiwl hwn, bydd rhaid i chi gwblhau prosiect ymchwil neu adolygiad llenyddiaeth systematig yn llwyddiannus mewn maes sy'n berthnasol i optometreg, ac ysgrifennu adroddiad (hyd at 20,000 o eiriau).

Gall cynigion prosiectau ymchwil MSc gael eu hawgrymu gennych chi neu gellir eu dewis o restr a ddarperir gan y staff. Cytunir ar y pwnc ar gyfer ymchwil rhwng arweinydd y modiwl, y goruchwyliwr(wyr) arfaethedig a chithau. Yn y bôn, y bwriad cyffredinol yw y bydd y prosiect yn cael ei gynnal tra eich bod chi’n bwrw ymlaen â'ch cyflogaeth reolaidd, a bydd cyfnod o flwyddyn fel arfer yn cael ei ganiatáu er mwyn ichi ei gwblhau.

Dyddiad dechrauMedi / Mawrth
Credydau60 credyd - pwyntiau CET ar gael
RhagofynionDim un
Tiwtoriaid y modiwlGrant Robinson
Ben Mead
Ffioedd dysgu (2024/25)£4020 - Myfyrwyr cartref
£7500 - Myfyrwyr rhyngwladol
Côd y modiwlOPT060

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech allu gwneud y canlynol:

  • gwerthfawrogi ystod yr adnoddau gwybodaeth sydd ar gael yn eich maes ymchwil dewisol
  • chwilio am wybodaeth briodol tra'n cynnal ymagwedd feirniadol at y llenyddiaeth sydd ar gael
  • dangos arbenigedd yn eich maes pwnc dewisol
  • dangos dealltwriaeth o fethodoleg ymchwil a dylunio astudiaethau
  • dangos dealltwriaeth ddofn o'r technegau a'r rhesymeg a ddefnyddir yn eich ymchwil
  • deall dadansoddi data arbrofol
  • dangos ymwybyddiaeth o ddulliau ystadegol eraill o ddadansoddi data
  • dangos dealltwriaeth o ganlyniadau a chasgliadau'r gwaith, a'i gyfyngiadau (fel y bo'n briodol)
  • cysylltu’r canfyddiadau â rhai ymchwilwyr eraill ac arferion optometrig cyfredol

Sut bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno

Mae astudio annibynnol yn hanfodol ar gyfer y modiwl hwn a chaiff ei gefnogi'n llawn gan y goruchwylwyr a thîm y cwrs.

Bydd gofyn ichi fynd i seminar ragarweiniol, drwy’r amgylchedd dysgu rhithwir, lle bydd arweinydd y modiwl a'r darpar oruchwylwyr (goruchwylwyr) yn esbonio'r modiwl a disgwyliadau'r goruchwyliwr/goruchwylwyr. Bydd amledd eich cyswllt â'ch goruchwyliwr a’r cyfarfod(ydd) a drefnir ag ef yn cael ei bennu ar sail unigol. Bydd cyfathrebu'n aml â'ch goruchwyliwr/goruchwylwyr yn allweddol er mwyn llwyddo yn y modiwl.

Byddwch yn cael eich cyfeirio at adnoddau priodol a thestunau generig i gefnogi eich pwnc dewisol a'ch datblygiad sgiliau ymchwil. O'r dysgu cychwynnol hwn, bydd y cwestiwn ymchwil/adolygiad yn cael ei fireinio ymhellach, ac yna caiff y prosiect ymchwil ei ddatblygu.

Y sgiliau a gaiff eu hymarfer a’u datblygu

Sgiliau academaidd

  • datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • casglu gwybodaeth o sawl adnodd ynghyd i wella dysgu, a’i chyfuno
  • ysgrifennu'n gryno a chlir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • rheoli prosiectau ac amser
  • gweithio’n annibynnol
  • defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • datrys problemau

Cynnwys y maes llafur

Bydd y modiwl hwn yn mynd i’r afael â'r pynciau canlynol a gaiff eu datblygu (fel y bo’n briodol) gan y myfyriwr:

  • sdnabod rhagdybiaeth ymchwil addas sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • dylunio arbrofion / methodoleg ymchwil sy'n rhoi damcaniaeth ymchwil ar brawf
  • agweddau moesegol ar gynllunio ymchwil a’r fethodoleg ymchwil
  • casglu a / neu grynhoi data o 'ansawdd'
  • dadansoddi ystadegol sy'n briodol i'r dylunio arbrofol / methodoleg ymchwil ac i'r math o ddata a ddefnyddir
  • trafod canfyddiadau'r ymchwil yng nghyd-destun y llenyddiaeth gyfredol
  • sgiliau cyflwyno ysgrifenedig a llafar

Sut bydd y modiwl yn cael ei asesu

Cynhelir asesu ffurfiannol anffurfiol yn rheolaidd drwy gydol y prosiect, drwy gyfathrebu gyda goruchwyliwr/wyr a fydd yn cynnig adborth ar y cynnydd a wneir.

Cynhelir yr asesiad (100%) ar ddiwedd y modiwl pan gyflwynir prosiect ysgrifenedig o fewn yr amserlen a gytunir (12 mis fel arfer).

Bydd eich goruchwyliwr yn arholi hwn a chaiff ei farcio hefyd gan aelod arall o staff yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg. Bydd y Bwrdd Arholiadau Ôl-raddedig a Addysgir yn cymeradwyo'r dyfarniad terfynol (mewn ymgynghoriad a'r Arholwyr Allanol).

Y safon a ddisgwylir mewn prosiectau ymchwil yw'r un sy'n dangos eich bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cymhwyster ar lefel 7, fel y nodir gan feincnodau'r QAA.