Ewch i’r prif gynnwys

OPT037: Gofal Llygaid Pediatrig Uwch

Nod y modiwl yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i ymarferwyr gofal llygaid iddynt allu darparu safon uchel o ofal llygaid pediatrig.

Mae'n adeiladu ar y wybodaeth graidd yn OPT006 ​​ac OPT033 i alluogi'r ymarferydd i ddatblygu gallu i ddarparu gofal llygaid i achosion pediatrig mwy cymhleth a phoblogaethau arbenigol, ac i ddeall y dystiolaeth ar gyfer datblygu opsiynau rheoli.

Achredir y modiwl hwn gan Goleg yr Optometryddion ar gyfer y Dystysgrif Broffesiynol Uwch mewn Gofal Llygaid Pediatrig. Mae'n ddilyniant i Dystysgrif Broffesiynol Coleg yr Optometryddion mewn Gofal Llygaid Pediatrig (OPT006 ac OPT033).

Mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.

Dyddiad dechrauMedi
Credydau20 credyd - Pwyntiau CET ar gael
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y modiwlMaggie Woodhouse
Mike George
Ffioedd dysgu (2024/25)£1340 - Myfyrwyr cartref
£2500 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT037

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • gwybodaeth fanwl am ddatblygiad gweledol nodweddiadol a chanlyniadau gweledol annormal cyffredin
  • dealltwriaeth o ddatblygiad yn ystod plentyndod
  • gwybodaeth fanwl am gryfderau a chyfyngiadau profion a thechnegau ar gyfer babanod a phlant
  • y gallu i asesu gweithrediad y llygaid mewn babanod a phlant â nam ar eu golwg (VI) a gydag anabledd datblygiadol
  • gwybodaeth fanwl am nodweddion gweledol nodweddiadol babanod a phlant â nam ar eu golwg ac anabledd datblygiadol
  • gwybodaeth fanwl am y sylfaen dystiolaeth ar gyfer risgiau a manteision therapi golwg deulygadog
  • dealltwriaeth o therapïau amblyopia cyfredol a datblygol
  • dealltwriaeth o'r dystiolaeth bresennol sy'n sail i reolaeth myopia
  • dealltwriaeth o’r arwyddion ar gyfer  gwisgo lensys cyffwrdd mewn babanod a phlant a goblygiadau hynny
  • y gallu i lunio, cyfathrebu a chyflwyno cynllun rheoli sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer babanod a phlant sy'n datblygu fel arfer a'r rhai ag anabledd datblygiadol a/neu nam ar eu golwg.

Dull cyflwyno’r modiwl

Mae darlithoedd rhyngweithiol ar-lein / tiwtorialau Xerte rhyngweithiol, a ddarperir trwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, a darperir adnoddau a chyfeirnodau ategol. Fe'u rhoddir gan arbenigwyr yn eu meysydd penodol.

Mae senarios dysgu ar sail achosion dan arweiniad sy’n cynnwys nodweddion allweddol yn caniatáu i fyfyrwyr adolygu a chymhwyso gwybodaeth i senarios cleifion mewn lleoliad rhithwir trwy Dysgu Canolog.

Bydd gweminarau yn galluogi myfyrwyr i drafod y senarios nodweddion allweddol ffurfiannol gyda'i gilydd a chyda thiwtor. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gyflwyno eu hachosion eu hunain yn ystod gweminarau.

Bydd dau ddiwrnod a hanner o hyfforddiant ymarferol yn cyflwyno gweithdai a fydd yn caniatáu profiad mewn lensys cyffwrdd, cyflenwi uwch, a rôl gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd trafodaethau achos yn galluogi ymarferwyr i gael mewnbwn cymheiriaid a thiwtoriaid i senarios clinigol gan gynnwys eu cleifion eu hunain. Bydd seminarau gyda phlant a phobl ifanc â nam ar eu golwg gyda rhieni plant ag anghenion arbennig yn cynyddu gwerthfawrogiad ymarferwyr o'r heriau y mae plant â VI ac anghenion arbennig eraill yn eu hwynebu mewn addysg, mewn archwiliadau llygaid, ac mewn bywyd bob dydd.

Dull asesu’r modiwl

Adroddiadau Achos (55%): Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno pum cofnod achos o'u hymarfer clinigol gan bwysleisio rheolaeth a myfyrio.

Cyflwyniad (20%): Bydd pob myfyriwr yn cyflwyno un o'r achosion i'r grŵp yn ystod y diwrnodau ymarferol, ac yn arwain trafodaeth am y materion sy'n codi.

ISCEs ar y diwrnodau ymarferol (25%): Bydd pedair gorsaf ISCE sy'n para 4 munud yr un yn asesu'r gallu i gyflawni tasgau sy'n gysylltiedig ag archwilio plant.

Llyfr cofnodion (0%) yn cynnwys 40 o gyfnodau gofal cleifion a gynhaliwyd gan y myfyriwr, gan ddangos rheolaeth gyda thystiolaeth, a myfyrdod.

Sgiliau a fydd yn cael eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth eich hun i lefel uwch
  • coladu gwybodaeth o nifer o adnoddau i wella dysgu

Sgiliau pwnc-benodol

  • arfarniad beirniadol o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymarfer clinigol cyfredol mewn gofal llygaid pediatrig
  • dealltwriaeth o effaith nam ar y golwg ar ddatblygiad yn ystod plentyndod
  • gwybodaeth am achosion cyffredin anabledd datblygiadol a'r diffygion optometrig sy'n gysylltiedig â'r cyflyrau
  • cyfathrebu'n effeithiol â phlant o bob oed a gallu, a'u rhieni/gofalwyr
  • datblygu sgiliau ymarferol i asesu a rheoli plant o bob oed a phob gallu
  • y gallu i lunio strategaeth rheoli sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gofal llygaid mewn plant o bob oed a gallu
  • dealltwriaeth o rôl gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â phlant a phwysigrwydd gweithio mewn cydweithrediad

Sgiliau cyffredinol

  • rheoli amser
  • gweithio’n annibynnol
  • arfarnu’r llenyddiaeth yn feirniadol
  • sgiliau datrys problemau
  • sgiliau cyfathrebu