Ewch i’r prif gynnwys

OPT036 - Rhagnodi Annibynnol

Nod y modiwl hwn yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi ddarparu safon uchel o ragnodi annibynnol.

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ragnodi annibynnol ac mae'n cynnwys triniaethau ar gyfer cyflyrau systemig cyffredin a sgil-effeithiau ocwlar cyffuriau systemig. Ynghyd ag OPT034 ac OPT035, mae'r modiwl hwn yn cael ei achredu gan y Cyngor Optegol Cyffredinol ar gyfer y Cymhwyster Rhagnodi Annibynnol.

Dim ond yn rhan o'r Dystysgrif lawn mewn Rhagnodi Therapiwtig y mae modd astudio'r modiwl hwn, ond efallai y bydd yn bosibl cymhwyso credydau o'r dyfarniad hwnnw i'r MSc neu’r diploma ôl-raddedig mewn Optometreg Glinigol.

Mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.

Dyddiad dechrauMawrth
Credydau20 credyd - Pwyntiau CET ar gael
RhagofynionOPT034 ac OPT035
Tiwtoriaid y modiwlDeacon Harle (Arweinydd)
Sophie Harper (Arweinydd)
Ffioedd dysgu (2023/24)£1300 - Myfyrwyr o'r DU a'r UE
£2430 - Myfyrwyr o'r tu allan i'r UE
Cod y modiwlOPT036

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dangos dealltwriaeth o'ch rôl fel rhagnodydd annibynnol, ymwybyddiaeth o gyfyngiadau eich profiad clinigol a'r gallu i weithio o fewn terfynau eich cymhwysedd proffesiynol
  • dangos dealltwriaeth o'r materion iechyd cyhoeddus sy'n ymwneud â defnyddio meddyginiaethau
  • dangos dealltwriaeth o'r fframwaith cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol ar gyfer atebolrwydd a chyfrifoldeb mewn perthynas â rhagnodi
  • dangos dealltwriaeth o weithio o fewn fframweithiau llywodraethu clinigol sy'n cynnwys archwilio ymarfer rhagnodi a datblygiad personol
  • cymryd hanes meddygol cynhwysfawr ac archwilio'r llygad gan ddefnyddio offer a thechnegau clinigol priodol.
  • dangos wybodaeth am bathoffisioleg, nodweddion clinigol a chwrs naturiol y cyflyrau sy'n cael eu trin
  • datblygu a dogfennu cynllun rheoli clinigol o fewn cyd-destun partneriaeth ragnodi
  • gwerthuso'n feirniadol ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chymorth i wneud penderfyniadau wrth ragnodi, gan ystyried ymarfer cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • dangos dealltwriaeth o sut i fonitro'r ymateb i driniaeth, adolygu'r gwaith a'r diagnosis gwahaniaethol, ac addasu triniaeth neu gyfeirio / ymgynghori / ceisio arweiniad fel y bo'n briodol
  • dangos dealltwriaeth o'r prif gysyniadau sy'n bwysig mewn perthynas â chyfathrebu a rhyngweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n berthnasol i reoli detholiad o gyflyrau ocwlar annormal a chlefydau'r llygaid.
  • dangos gwybodaeth am egwyddorion y Ddeddf Meddyginiaethau ac egwyddorion mynediad at feddyginiaethau, gan gynnwys rhagnodi meddyginiaethau at ddefnydd dynol
  • dangos dealltwriaeth o sut i ragnodi'n ddiogel, yn briodol ac yn gost-effeithiol
  • dangos gwybodaeth am ddull cyffredin o wneud penderfyniadau drwy asesu angen cleifion am feddyginiaethau, gan ystyried eu dewis
  • graddio opsiynau trin posibl ac i lunio ac adolygu cynllun rheoli ar gyfer pobl â chlefyd y llygaid, gan ddangos dealltwriaeth o'r dylanwadau amrywiol ar benderfyniadau rhagnodi gan gynnwys canllawiau lleol a chenedlaethol, effeithiolrwydd clinigol, iechyd cyffredinol, cost, pryderon diogelwch, sgîl-effeithiau a dewis cleifion
  • egluro a chyfiawnhau penderfyniadau clinigol i gleifion a chydweithwyr

Dull cyflwyno’r modiwl

Bydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd ar-lein, gweminar, dysgu seiliedig ar achosion, sesiynau ymarferol, a chyfres o erthyglau ar-lein.

Astudir y modiwl hwn yn semester dau ac mae'n cynnwys diwrnod addysgu cyswllt (os bydd cyfyngiadau Covid yn caniatáu hynny) tua dechrau'r modiwl lle byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau addysgu rhyngweithiol. Mae astudiaethau'n parhau gyda chyfres o erthyglau a darlithoedd dysgu o bell a gyflwynir ar Dysgu Canolog.

Byddwch yn cyflwyno trafodaethau achos rhyngweithiol mewn gweminarau ac ar y diwrnod addysgu cyswllt. Mae dau sesiwn gyswllt i gyd sy'n cynnwys y diwrnod addysgu cyswllt ar ôl arholiad OPT035 ac arholiad ar-lein ar ddiwedd y modiwl.

Mae pob diwrnod cyswllt a'r weminar yn weithgareddau gorfodol.

Sgiliau a fydd yn cael eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau

Cynnwys y maes llafur

  • Ffarmacocineteg a ffarmacodynameg meddyginiaethau a weinyddir yn systemig
  • Cyflyrau systemig a'u perthnasedd i reoli clefyd y llygaid fel rhagnodwr annibynnol
  • Agweddau cyfreithiol a moesegol ar ymreolaeth broffesiynol rhagnodwr annibynnol
  • Ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a llywodraethu clinigol mewn perthynas â rhagnodi
  • Polisïau lleol a chenedlaethol sy'n effeithio ar arferion rhagnodi
  • Rheoli poen
  • Ymchwiliadau labordy mewn perthynas â rheoli cyflyrau llygaid acíwt

Dull asesu’r modiwl

Asesiad ffurfiannol

Cyflwynir gweithgareddau ffurfiannol ar-lein, yn y weminar, ac yn y diwrnodau addysgu ar-lein.

Asesiad crynodol

  • Arholiad (65%): Bydd arholiad ar ddiwedd y tymor.
  • Adroddiad achos (35%): Bydd myfyrwyr yn cyflwyno adroddiad achos ar asesu, rheoli a thrin claf sydd â chyflwr llygaid blaen.