Ewch i’r prif gynnwys

OPT030: Golwg Gwan - Uwch

Nod y modiwl hwn yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi allu darparu safon uchel o ofal golwg gwan uwch.

Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y wybodaeth graidd a gafwyd yn OPT001: Golwg Gwan 1 - Theori ac OPT002: Golwg Gwan – Ymarferol, i ddatblygu gallu i ddarparu gofal golwg gwan i achosion golwg gwan mwy cymhleth a phoblogaethau arbenigol.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd â Thystysgrif Broffesiynol mewn Golwg Gwan neu achrediad ar gyfer Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru, sy'n dymuno darparu gofal golwg gwan uwch yn y gymuned neu mewn lleoliad ysbyty.

Achredir y modiwl hwn ar gyfer Tystysgrif Broffesiynol Coleg yr Optometryddion mewn Golwg Gwan. Rhaid i fyfyrwyr sydd am gael y Dystysgrif Uwch feddu ar y Dystysgrif Broffesiynol eisoes.

Gall ymarferwyr heb fynediad at ystod ddigon eang o gleifion golwg gwan barhau i gwblhau'r modiwl uwch heb wneud cais am Dystysgrif Uwch y Coleg. Ni fydd yn ofynnol i'r rhai sy'n dewis y llwybr hwn gwblhau cofnodlyfr a bydd ganddynt lai o achosion ffurfiol i'w cyflwyno.

Dyddiad dechrauMedi
HydDau dymor academaidd
Credydau20 credyd - Pwyntiau CET ar gael
RhagofynionOPT001 OPT002
Tiwtoriaid y modiwlMarek Karas a Natalie Lucas
Ffioedd dysgu (2024/25)£1340 - Myfyrwyr cartref
£2500 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT030

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylech allu dangos y canlynol:

  • gwybodaeth fanwl am achosion ac epidemioleg golwg gwan mewn grwpiau arbenigol o gleifion. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys:
    • plant a phobl ifanc
    • pobl ifanc sy’n pontio i fod yn oedolion
    • pobl o oedran gweithio
    • pobl ag anableddau dysgu
    • pobl sydd wedi colli defnydd o ddau synnwyr
    • pobl â nam niwrolegol a gwybyddol
    • pobl â cholled golwg anorganig
    • pobl ag anableddau dwys a lluosog
    • grwpiau du, lleiafrifol ac ethnig
    • pobl â cholled golwg difrifol
    • y rhai sy'n cael triniaeth, er enghraifft pobl sy'n cael therapi ar hyn o bryd ar gyfer clefyd retinol
    • pobl â nam ar y golwg cortigol
  • ymwybyddiaeth o'r effaith y mae ffactorau allweddol yn ei chael ar y grwpiau arbenigol hyn, gan gynnwys geni cynamserol, heneiddio a chefndir diwylliannol
  • y gallu i asesu a rheoli cleifion yn y grwpiau arbenigol hyn
  • gwybodaeth fanwl am ddyfeisiau optegol ac anoptegol a dangos gallu i ragnodi detholiad o'r rhain
  • dealltwriaeth o ryngweithio iechyd meddwl a golwg gwan
  • dealltwriaeth o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer adfer golwg isel
  • y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â chleifion, gofalwyr a chyd-weithwyr proffesiynol mewn ffyrdd ystyrlon ac arloesol
  • dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau sy'n sail i arfer golwg gwan

Dull cyflwyno’r modiwl

Dysgir y modiwl hwn trwy ddarlithoedd (Pwerbwynt â sain) a thiwtorialau Xerte a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gan ddarparu adnoddau a chyfeirnodau ategol.

Mae dau ddiwrnod cyswllt. Mae sesiynau ar-lein o ddysgu seiliedig ar achosion dan arweiniad, sy'n caniatáu i fyfyrwyr adolygu a chymhwyso eu gwybodaeth mewn lleoliad rhithwir. Mae gweminarau wedi'u hamserlennu a chyfarfodydd un i un sydd wedi'u cynllunio i gefnogi myfyrwyr yn ystod y modiwl.

Sgiliau y byddwch yn eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

Trwy astudio'r modiwl uwch hwn, byddwch yn ymarfer ac yn datblygu sgiliau academaidd a ddisgwylir ar lefel ôl-raddedig Lefel 7 (FHEQ). Yn benodol, byddwch yn gallu:

  • dangos gwybodaeth uwch mewn ymarfer golwg gwan
  • dadansoddi a beirniadu'r sylfaen dystiolaeth sy'n cefnogi eich ymarfer
  • coladu gwybodaeth o nifer o adnoddau i ategu eich dealltwriaeth
  • dangos gwerthusiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n llywio'ch ymarfer clinigol a'ch dealltwriaeth ddamcaniaethol
  • cyflwyno eich gwaith gan ddefnyddio confensiynau academaidd cywir

Sgiliau pwnc-benodol

  • Gwerthuso'n feirniadol wybodaeth sydd ar flaen y gad o ran ymarfer golwg gwan.
  • Datblygu empathi â phobl sydd â nam ar eu golwg.
  • Datblygu sgiliau ymarferol i asesu a rheoli pobl â nam ar eu golwg.
  • Darparu neu hwyluso safonau uwch o ran gofal a rheoli cleifion yn y lleoliad gofal sylfaenol.
  • Dangos safonau uchel wrth wneud penderfyniadau clinigol.
  • Gwerthfawrogi rôl optometryddion o ran darparu gwasanaethau gwell yn y gymuned.

Sgiliau cyffredinol

Trwy ddilyn y modiwl hwn, byddwch yn gallu datblygu’r canlynol:

  • sgiliau rheoli amser
  • y gallu i astudio'n annibynnol o fewn amgylchedd dysgu o bell â chymorth
  • sgiliau TG sy'n gyffredin i ddysgu o bell, yn enwedig mewn perthynas â dulliau trafod ar-lein, dulliau dysgu ac asesu ar-lein
  • sgiliau gwell o ran datrys problemau
  • sgiliau gwell o ran cyfathrebu

Cynnwys y maes llafur

  • Achosion ac epidemioleg golwg gwan mewn pobl yn y grwpiau arbenigol (a grybwyllir yn yr adran amcanion dysgu).
  • Effaith geni cynamserol, heneiddio ac amrywiaeth ddiwylliannol ar y grwpiau a restrir uchod.
  • Asesu a rheoli grwpiau arbenigol gyda phwyslais ar addasiadau i'r dull asesu.
  • Dyfeisiau optegol ac anoptegol a'u rhagnodi, gan gynnwys dyfeisiau ehangu maes (gan gynnwys prismau, teclynnau crebachu a systemau drych), telesgopau (gan gynnwys biopteg) a TG a chymhorthion electronig (gan gynnwys chwyddwydrau electronig ac addasiadau i dechnoleg brif ffrwd) Rhyngweithio iechyd meddwl a golwg gwan gan gynnwys epidemioleg iselder, aflonyddwch cwsg, syndrom Charles Bonnet a cholled golwg anorganig mewn pobl â golwg gwan.
  • Sylfaen dystiolaeth ar gyfer adfer golwg gwan a chwmpas y gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'r amrywiaeth o wasanaethau adfer.
  • Cyfathrebu â chleifion, gofalwyr a chyd-weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â gofalu am grwpiau arbenigol
  • Y ddeddfwriaeth a'r canllawiau sy'n sail i arfer golwg gwan

Dull asesu’r modiwl

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol drwy’r ddau semester.

  • DOPs ar y diwrnod ymarferol (0%): Bydd cymhwysedd mewn amrywiaeth o sgiliau ymarferol yn cael eu hasesu yn ystod y diwrnod cyswllt. Nid yw canlyniadau'r asesiadau hyn yn cyfrannu at farc cyffredinol y modiwl ond rhaid llwyddo ynddynt i gwblhau'r modiwl
  • Cwestiwn ateb hir (20%): Gofynnir i fyfyrwyr archwilio'r epidemioleg sy'n effeithio ar bedwar o'r grwpiau arbenigol mewn papur ateb hir.
  • Trafodaeth gwrs ysgrifenedig (40%): Gofynnir i fyfyrwyr drafod achos yn seiliedig ar wybodaeth achos clinigol a roddir iddynt yn y cwestiwn
  • Cofnodion achos llawn a viva ar-lein (40%): Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno cofnodion achos o'u hymarfer clinigol. I'r rhai sy'n dymuno ennill Tystysgrif Uwch y Coleg mewn Golwg Gwan, 10 fydd hyn. I unrhyw un arall, 6 fydd hyn

Yn ogystal, bydd angen i fyfyrwyr sy'n dymuno gwneud cais am Dystysgrif Uwch Coleg yr Optometryddion mewn Golwg Gwan gwblhau cofnodlyfr o 50 o episodau cleifion (gan o leiaf 20 o gleifion) a archwiliwyd yn uniongyrchol ganddynt eu hunain. Mae'r cofnodlyfr hwn yn rhoi modd cyflwyno tystiolaeth o brofiad o weld cleifion â golwg gwan o grwpiau arbenigol mewn ymarfer. Gall fod yn ôl-weithredol. Bydd sampl o'r cofnodion achos a gyflwynwyd yn cael eu hasesu gan viva.