Ewch i’r prif gynnwys

OPT027: Y Segment Blaen - Archwilio a Rheoli Clinigol

Y nod o ran y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth fanwl i chi ynghylch proses archwilio’r segment blaen, ei ddelweddu, rhoi diagnosis a rheoli hyn.

Bydd adolygiadau â delweddau o'r arwyddion mwyaf cyffredin yn y segment blaen, trafodaethau sy'n canolbwyntio ar ddiagnosis gwahaniaethol ac arwyddocâd clinigol, yn ogystal ag arweiniad ynghylch strategaethau rheoli yn rhan o’r modiwl. Byddwch yn sgîl hyn yn gallu cynghori cleifion ynghylch eu diagnosis tebygol a'i oblygiadau.

Y nod o ran y modiwl yw cyflwyno’r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol fel y gallwch bennu yn fwy effeithiol pa gleifion y gellir eu rheoli drwy’ch ymarfer a pha rai y dylid eu cyfeirio at offthalmoleg gofal eilaidd.

Bydd amser yn cael ei ddyrannu'n benodol i drafod y dulliau diweddaraf o ymdrîn â ceratoconws a ceratoplasti. Yn sgîl hyn, dylech fod mewn sefyllfa gryfach i reoli cleifion ym maes ceratoconws a ceratoplasti, a byddwch yn gallu rhoi cefnogaeth bwysig i gyd-fynd â’r gofal a roddir gan yr offthalmolegydd.

Dyddiad dechrauMis Mawrth
Credydau.
RhagofynionDim un
Tiwtoriaid y modiwlBarbara Ryan
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Côd y modiwlOPT027

Amcanion dysgu

Wedi i chi gwblhau’r modiwl, dylech allu gwneud y canlynol:

  • myfyrio'n feirniadol ar wybodaeth ynghylch materion cymhleth, dadleuol a/neu gynhennus sy'n gysylltiedig â chyflyrau’r segment blaen ym maes ymarfer optometreg
  • gwerthuso cysyniadau allweddol modern ynghlwm ag archwilio a rheoli cyflyrau blaen y llygad, a’u rhoi ar waith, gan wneud hynny wrth fynd i’r afael â heriau yn eich amgylchedd gwaith a'ch ymarfer
  • rhoi sylw i’r buddion a ddaw’n sgîl gweithio’n rhan o dîm rhyngbroffesiynol wrth roi gofal i gleifion â chyflyrau ar y segment blaen, a myfyrio ar y rhain
  • archwilio llenyddiaeth, canllawiau a damcaniaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a’u dadansoddi'n feirniadol, eu cyfuno a’u gwerthuso wrth reoli cleifion ag anhwylderau ar y segment blaen a chymhwyso'r wybodaeth hon i senarios penodol, gan ddangos sut y byddent yn sicrhau'r atebion mwyaf priodol ar gyfer claf sy'n cael gofal offthalmig
  • cyflwyno dadleuon cytbwys wedi’u seilio ar wybodaeth drwyadl, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn gwaith ysgrifenedig.

Sut bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno

Addysgir y modiwl hwn trwy ddarlithoedd (PowerPoint â sain) ar Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, a darperir adnoddau a deunyddiau cyfeirio ategol hefyd. Ceir 2 sesiwn dysgu ar-lein dan arweiniad; gweminarau fydd y rhain yn seiliedig ar drafodaethau ynghylch achosion. Bydd y modiwl yn cymryd tymor i'w gwblhau.

Bydd byrddau trafod ar Dysgu Canolog yn rhoi lle i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau drwy gydol y tymor, hyn gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyd-fyfyrwyr.

Sgiliau a gaiff eu hymarfer a’u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu gwybodaeth ynghyd o sawl adnodd a’i chyfuno, hyn oll i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau

Cynnwys y maes llafur

  • Cymryd hanes offthalmig perthnasol gan gleifion sydd â symptomau o glefyd ar ran allanol y llygad neu’r segment blaen
  • Archwilio segment blaen y llygad ar gyfer cleifion â chlefyd ar y cornbilen/ rhan allanol y llygad
  • Delweddu’r segment blaen a hefyd technoleg er rhoi diagnosis, hyn ar gyfer cleifion â chlefyd ar y cornbilen/rhan allanol y llygad
  • Perthnasedd cyflyrau meddygol systemig a chanfyddiadau ocwlar eraill ymhlith cleifion â chlefyd ar y cornbilen/ rhan allanol y llygad
  • Dehongli canfyddiadau clinigol ym maes clefyd y cornbilen/ rhan allanol y llygad
  • Gwneud penderfyniadau clinigol ar gyfer cleifion â chlefyd ar y cornbilen/ rhan allanol y llygad
  • Llunio cynllun rheoli clinigol ar gyfer cleifion â chlefyd ar y cornbilen/ rhan allanol y llygad
  • Technegau llawfeddygol sydd ar gael i drin cleifion â chlefyd ar y cornbilen, gyda phwyslais ar gleifion ym maes ceratoconws a chlefydau’r cornbilen ac y mae arnynt angen trawsblaniad
  • Rôl yr optometrydd wrth reoli cleifion sydd angen llawfeddygaeth yng nghyd-destun trawsblannu’r cornbilen neu geratoconws

Sut bydd y modiwl yn cael ei asesu

Asesiadau ffurfiannol

Ceir cyflwyniadau ffurfiannol yn seiliedig ar achosion – sefyllfaoedd ar sail nodweddion allweddol yw'r rhain, lle gall y dysgwr weithio drwy'r achos drwy ateb cyfresi o gwestiynau a gweld yr atebion.

Caiff myfyrwyr gyflwyno un darn ysgrifenedig o waith cwrs ffurfiannol a chael adborth.

Asesiadau crynodol

  • Prawf ar-lein (50%): Ceir prawf ar sail cwestiynau amlddewis. Bydd y prawf yn asesu gallu’r dysgwr o ran dealltwriaeth a chymhwyso’r ddealltwriaeth honno, a hyn ar sail y maes llafur yn ei gyfanrwydd. Bydd pob myfyriwr yn ymgymryd â’r prawf hwn ar ddiwedd y semester.
  • Gwaith Cwrs ysgrifenedig (50%): Bydd myfyrwyr yn cyflwyno un darn o waith cwrs ysgrifenedig