Ewch i’r prif gynnwys

OPT025: Retina Meddygol

Bydd y modiwl hwn yn galluogi optometryddion neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol i adnewyddu a gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau clinigol ym maes retina meddygol.

Nod y cwrs yw cyflwyno gwybodaeth am gyflyrau retina meddygol cyffredin ac mae'n cynnwys pynciau sy'n cwmpasu llwybrau sgrinio, atgyfeirio a thriniaeth, gyda phwyslais ar ddehongli tomograffeg cydlyniant optegol (OCT) a graddio retinopathi diabetig. Y nod yw eich galluogi i wneud penderfyniadau atgyfeirio cywir a phriodol i gleifion â chyflyrau retina meddygol a bydd yn eich paratoi ar gyfer gweithio dan oruchwyliaeth ym maes retina meddygol, mewn clinigau brysbennu cleifion newydd a chlinigau triniaeth-aildriniaeth AMD.

Yn ogystal, mae'r cwrs wedi'i ddatblygu i ymgorffori'r holl gymwyseddau sydd eu hangen, felly ar ôl pasio'r modiwl yn llwyddiannus, bydd gennych gymhwyster cyfatebol i'r Diploma Lefel 3 ar gyfer Sgrinwyr Iechyd (Llygad Diabetig). Caiff y cwrs ei gynnal ar-lein yn llwyr ac ni fydd angen presenoldeb yng Nghaerdydd ar gyfer asesu.

Mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.

Mae'r modiwl yn rhedeg dros un semester.

Achredir y modiwl gan Dystysgrif Broffesiynol Coleg yr Optometryddion mewn Retina Meddygol.

Dyddiad dechrauMedi a Mawrth
HydUn tymor academaidd
Credydau20 credyd - Pwyntiau CET ar gael
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y modiwlJeenal Shah (arweinydd)
Ffioedd Dysgu (2024/25)£1340 - Myfyrwyr cartref
£2500 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT025

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, dylech allu::

  • Myfyrio'n feirniadol ar wybodaeth am faterion cymhleth, dadleuol a/neu gynhennus sy'n gysylltiedig ag anatomeg, ffisioleg a phathoffisioleg y retina a gofal cleifion ag anhwylderau retina meddygol mewn practis optometrig.
  • Archwilio, dadansoddi'n feirniadol, syntheseiddio a gwerthuso llenyddiaeth, canllawiau a damcaniaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn gofal retina meddygol a chymhwyso'r wybodaeth hon i senarios penodol, gan ddangos sut y byddech chi'n pennu'r atebion mwyaf priodol ar gyfer claf sy'n derbyn gofal offthalmig.
  • Gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern gofal retina meddygol a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer.
  • Mynd i'r afael a myfyrio ar fudd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu gofal retina meddygol mewn optometreg.
  • Cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori penderfyniadau beirniadol a gwneud penderfyniadau mewn asesiadau ymarferol.
  • Myfyrio'n effeithiol ar ddysgu a'i werthuso.
  • Asesu arwyddion a symptomau anhwylderau retina meddygol, gan gynnwys ymateb y cleifion i driniaeth, i wneud diagnosis gwahaniaethol a gosod opsiynau ar gyfer rheoli mewn trefn.
  • Datrys problemau a datblygu atebion/cynlluniau rheoli mewn achosion retina meddygol yn seiliedig ar dystiolaeth, gwybodaeth am driniaethau cyfredol a barn broffesiynol a chlinigol gadarn.

Dysgir y modiwl drwy ddarlithoedd o bell a thiwtorialau Xerte a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, system e-ddysgu'r Brifysgol, a darperir adnoddau a chyfeirnodau ategol.

Drwy gydol y cwrs cewch achosion retina meddygol i weithio arnynt i'ch helpu i ddatblygu ac yna brofi eich gallu i adnabod nodweddion a gwneud penderfyniadau rheoli.

Byddwch yn cael gweminarau gydag arweinwyr y modiwl i gefnogi eich dysgu.

Ceir asesiad crynodol ar ddiwedd y semester sy'n cynnwys:

Prawf Amlddewis Ar-lein (45%): Mae hwn yn brawf amlddewis ar-lein a fydd yn asesu dealltwriaeth a chymhwyso ar draws y maes llafur cyfan. Byddwch yn ei sefyll ar ddiwedd y semester.

Prawf Senario Achos Ar-lein (45%): Dyma gyfres o asesiadau senario achos a all gynnwys cwestiynau adnabod nodweddion allweddol / amlddewis a fydd yn asesu dealltwriaeth a chymhwyso eich gwybodaeth rheoli clinigol a ddysgwyd trwy gydol y cwrs.

Asesiad Cyfathrebu (10%): Byddwch yn sefyll asesiad ar-lein lle caiff y gallu i ddeall, dehongli a chyfathrebu gwybodaeth retinol meddygol gymhleth ei asesu ar ddiwedd y semester.

Anatomeg a Ffisioleg y Macwla

  • Delweddu a Dehongli
  • Dirywiad Macwlaidd yn gysylltiedig ag oedran

Dirywiad macwlaidd yn gysylltiedig ag oedran (AMD)

  • Dynwaredwyr AMD a diagnosis gwahaniaethol

Diabetes

  • Diabetes Mellitus
  • Nodweddion a graddio Retinopathi Diabetig
  • Egwyddorion a phrotocolau Sgrinio Llygad Diabetig
  • Rheoli Retinopathi Diabetig

Cyflyrau Fasgwlaidd

  • Annormaleddau Fasgwlaidd
  • Achludiad Gwythiennol

Cyffredinol

  • Patholeg Fitreoretinol a dystroffi Retinol
  • Uveitis
  • Ffactorau risg a diagnosis gwahaniaethol o gyflyrau retina meddygol
  • Rheoli gofal sylfaenol ac eilaidd ar gyfer cyflyrau retina meddygol
  • Cyflyrau retinol acíwt
  • Cyfathrebu
  • Canllawiau a llwybrau cyfeirio

Sgiliau academaidd

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau penodol i’r pwnc

  • Gwella technegau archwilio clinigol
  • Datblygu sgiliau ymarferol i asesu a rheoli pobl â phroblemau llygaid acíwt
  • Llwybrau atgyfeirio priodol ar gyfer problemau llygaid acíwt

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau