Ewch i’r prif gynnwys

OPT009: Sylfaen Glawcoma

Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth gefndirol a dealltwriaeth i chi am bathogenesis a darganfod glawcoma, ac i ddarparu dull cyson o fireinio atgyfeirio/llwybrau mesurau ailadroddus mewn gofal sylfaenol cymunedol.

Ynghyd ag OPT010, achredir y modiwl hwn gan Goleg yr Optometryddion ar gyfer y Dystysgrif Broffesiynol mewn Golwg Gwan.

Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn. Nid oes elfen ymarferol yn perthyn i’r modiwl hwn.

Dyddiad dechrauMedi
Credydau10 credyd - pwyntiau CET ar gael
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y modiwlJustine Davies (Arweinydd)
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT009

Efallai y gall ymarferwyr yn y DU fod yn gymwys i wneud cais am esemptiad rhag y modiwl hwn a dechrau gydag OPT010 os ydynt wedi cwblhau Golwg Gwan LOCSU o fewn y tair blynedd diwethaf.

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • adlewyrchu'n feirniadol wybodaeth am faterion sy'n ymwneud â gofal glawcoma gyda ffocws ar ganfod achosion a rheoli mewn ymarfer optometrig gofal sylfaenol cymunedol
  • gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o ofal glawcoma a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer eich hun
  • mynd i'r afael â budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol wrth ddarparu gofal glawcoma, a myfyrio arno
  • asesu arwyddion a symptomau clefyd llygaid glawcoma posibl i wneud diagnosis gwahaniaethol a graddio opsiynau ar gyfer ei ddiagnosio a’i reoli, gan ganolbwyntio ar ymarfer optometrig cymunedol
  • archwilio, dadansoddi'n feirniadol, syntheseiddio a gwerthuso llenyddiaeth, canllawiau a damcaniaethau sylfaenol sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn gofal glawcoma a chymhwyso'r wybodaeth hon i senarios penodol, gan ddangos sut y byddech chi'n pennu'r atebion mwyaf priodol ar gyfer claf sy'n derbyn gofal offthalmig (â ffocws ar ofal sylfaenol)
  • cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn gwaith ysgrifenedig

Dull cyflwyno’r modiwl

Dysgir y modiwl hwn trwy ddarlithoedd (Pwerbwynt â sain) a thiwtorialau Xerte a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gydag adnoddau a chyfeirnodau ategol. Ceir gweminar gyflwyniadol.

Bydd byrddau trafod ar Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyd-fyfyrwyr.

Cynnwys y maes llafur

  • Epidemioleg a ffactorau risg y gwahanol fathau o glawcoma, gan ganolbwyntio'n benodol ar COAG a gorbwysedd ocwlar (OHT)
  • Gwahaniaeth rhwng ongl siambr agored a chul a glawcoma cychwynnol ac eilaidd, a sut i ffurfio dosbarthiad sylfaenol ar sail y gwahaniaethau hyn
  • Arwyddion penodol o newidiadau yn y ddisgen optig glawcomataidd
  • Y cysylltiad rhwng pwysedd intra-ocwlar (IOP) a glawcoma, ac adolygu'r gwallau amherthnasol a’r gwallau o ran mesur sy'n effeithio ar fesur IOP
  • Yr anatomeg a'r ffisioleg sylfaenol sy'n pennu ble a pham y mae colli’r maes golwg yn digwydd mewn glawcoma ongl agored cronig (COAG)
  • Dewis y dull mwyaf priodol o archwilio’r maes golwg ar gyfer ymchwilio i COAG tybiedig
  • Canllawiau NICE ar gyfer monitro OHT a ddiagnosiwyd yn flaenorol a heb ei drin a glawcoma tybiedig
  • Canllawiau NICE ar gyfer atgyfeirio OHT a COAG o ofal sylfaenol i ofal eilaidd
  • Y cysylltiad rhwng IOP a glawcoma, ac adolygu'r gwallau amherthnasol a’r gwallau o ran mesur sy'n effeithio ar fesur IOP
  • Egwyddorion techneg Van Herick a'r amrywiadau yn yr ongl

Sgiliau a fydd yn cael eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau

Dull asesu’r modiwl

Ffurfiannol

  • Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno darn o waith cwrs ysgrifenedig ar gyfer asesu ffurfiannol ac adborth
  • Gwaith Cwrs Ffurfiannol Cydnabod Gweledol a Dehongli Arwyddion Clinigol (VRICS): Mae VRICS yn debyg i MCQs ond mae pob cwestiwn yn gysylltiedig â sleidiau delweddol o achosion perthnasol. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i hwyluso dysgu ac nid fel gwaith cwrs wedi'i asesu

Crynodol

  • Prawf ar-lein (50%): Ceir prawf ar-lein a fydd yn asesu dealltwriaeth a chymhwysiad ar draws y maes llafur cyfan
  • Gwaith cwrs ysgrifenedig (50%): Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno un darn terfynol o waith cwrs ysgrifenedig. Wrth baratoi ar gyfer y gwaith cwrs, bydd blogiau achos ffurfiannol yn cael eu cyflwyno yn ystod y semester

Gwefannau defnyddiol

Glawcoma: Diagnosio a rheoli glawcoma ongl agored cronig a gorbwysedd ocwlar (canllawiau NICE)