Ewch i’r prif gynnwys

OPT008: Sgiliau Astudio ac Ymchwil 1

Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth ichi o’ch arddull dysgu eich hun a bydd yn esbonio problemau o ran dysgu o bell a sut i fod yn effeithiol wrth astudio’n annibynnol.

Bydd y modiwl hwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth gefndirol ichi fedru deall egwyddorion methodoleg ymchwil: y gallu i adnabod a dilysu problemau a wynebir mewn ymchwil sy’n gysylltiedig ag optometreg. Bydd yn cynnwys ystyriaethau moesegol ac ystadegol mewn ymchwil optometreg ac yn datblygu'r sgiliau i werthuso papurau gwyddonol yn feirniadol.

Modiwl gorfodol yw hwn, lle bydd gofyn i bob myfyriwr sy’n dymuno ennill yr MSc llawn ei gwblhau cyn cychwyn ar y modiwl Prosiect Ymchwil.

Modiwl dysgu o bell yn unig yw hwn ac nid oes unrhyw gydran ymarferol iddo.

Dyddiad dechrauMedi / Mawrth
Credydau10 credyd - Does dim pwyntiau CET ar gael ar gyfer y modiwl hwn.
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y modiwlTony Redmond (Arweinydd)
Grant Robinson
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Côd y modiwlOPT008

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • adnabod technegau defnyddiol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd dysgu
  • enwi a nodi’r egwyddorion sydd wrth wraidd cynllunio astudiaethau a datblygu protocolau
  • adnabod a gwerthuso’r goblygiadau moesegol o ran gwneud ymchwil ar bynciau dynol neu samplau meinwe, yn ogystal â'r broses briodol o wneud cais am gymeradwyaeth i ymgymryd ag ymchwil o’r fath
  • arddangos y gallu i werthuso allbynnau ymchwil wyddonol yn feirniadol
  • arddangos y gallu i werthuso dyluniad yr ymchwil yn feirniadol
  • nodi profion ystadegol priodol, gan ystyried y senario achos dan sylw
  • gwerthuso’r defnydd o brofion ystadegol sylfaenol o fewn llenyddiaeth gyhoeddedig
  • defnyddio adnoddau electronig arbenigol at ddibenion ymchwil.

Sut bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno

Addysgir y modiwl dysgu o bell hwn drwy ddarlithoedd (Pwerbwynt â sain) a phodlediadau (ffeiliau sain) a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gan ddarparu adnoddau a chyfeirnodau ategol. Bydd gweminar rhagarweiniol, a sesiynau gweminar pellach o ddysgu ar-lein dan arweiniad.

Bydd byrddau trafod ar Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyd-fyfyrwyr.

Caiff cymorth ystadegol pellach ei gynnig gan Oruchwylwyr y Prosiect i'r myfyrwyr hynny sy’n bwriadu cofrestru ar gyfer y prosiect Meistr (OPT060 neu OPT063).

Cynnwys y maes llafur

  • hunan-asesiad o’r dull dysgu
  • sgiliau Astudio’n Annibynnol
  • dylunio astudiaethau a datblygu protocolau
  • ystyriaethau moesegol
  • adolygu ymchwil gyhoeddedig yn feirniadol
  • ystadegau

Sgiliau a gaiff eu hymarfer a’u datblygu

Sgiliau academaidd

  • datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • rheoli prosiectau ac amser
  • gweithio’n annibynnol
  • defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • datrys problemau

Sut bydd y modiwl yn cael ei asesu

Ffurfiannol

Gall myfyrwyr gyflwyno gwerthusiad beirniadol (1000 o eiriau) ar sail papur ymchwil a gwerthusiad beirniadol o gynnig ymchwil (1000 o eiriau). Bydd yr adborth o fudd mawr i’w gwaith cwrs crynodol ac yn ei lywio.

Asesiad Crynodol

  • prawf ar-lein (40%): Ceir prawf cwestiynau amlddewis a fydd yn asesu dealltwriaeth a chymhwysiad ar draws y maes llafur cyfan. Bydd myfyrwyr yn ei sefyll ar ddiwedd y gyfres o ddarlithoedd.
  • gwaith cwrs ysgrifenedig (60%): Bydd myfyrwyr yn cyflwyno dau werthusiad beirniadol, un ar sail papur ymchwil a’r llall ar sail cynnig ymchwil

Manylion cyswllt

Postgraduate team

School of Optometry and Vision Sciences