Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-raddedig a addysgir

Gwella eich gwybodaeth, sgiliau a'ch cyflogadwyedd gyda'n rhaglenni ôl-raddedig a ddewisir yn ofalus ac a addysgir gan arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw.

Mae ein rhaglenni wedi'u datblygu'n benodol gyda gweithwyr proffesiynol gofal llygaid mewn golwg; maent yn gyfle i ennill cymwysterau uwch fydd yn berthnasol mewn ymarfer offthalmig bob dydd. Rydym yn cynnig profiad dysgu ac addysgu rhagorol, ac mae ein holl addysgu wedi'i lywio gan ymchwil.

Modiwlau a rhaglenni

Rhaglenni

Mae ein rhaglenni'n cynnig llwybrau i weithwyr proffesiynol ym maes gofal llygaid sy'n astudio modiwlau unigol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ac ar gyfer y rhai sy'n dilyn dyfarniad Tystysgrif Uwchraddedig neu MSc.

Course Qualification Mode
Llywodraethu Gofal y Llygaid PgCert Rhan amser yn dysgu o bell, Rhan amser yn dysgu o bell
Optometreg Glinigol MSc Amser llawn, Dysgu cyfunol rhan amser
Rhagnodi Therapiwtig ar gyfer Optometryddion PgCert Dysgu cyfunol rhan amser

Modiwlau

Gall myfyrwyr rhan-amser astudio modiwl ar y tro neu gofrestru ar gyfer rhaglen.  Mae gweithwyr proffesiynol yn dewis pynciau a lefel cymhlethdod sy’n addas i'w harferion.

Edrychwch ar ein holl fodiwlau sydd ar gael.

Mae dysgu gyda ni yn defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, a chynigir hefyd gefnogaeth bersonol gadarn a chysylltiad â thiwtoriaid. Mae llawer o’r modiwlau yn cynnwys gweithdai hyfforddi ymarferol, a ddarperir fel arfer dros gyfnod o 1-2 diwrnod yng Nghaerdydd neu mewn lleoliadau addas eraill.

COO Logo
Many of our programmes and modules are accredited by The College of Optometrists.

Mae ein rhaglenni wedi'u datblygu'n benodol gyda gweithwyr proffesiynol gofal llygaid mewn golwg; maent yn gyfle i ennill cymwysterau uwch fydd yn berthnasol mewn ymarfer offthalmig bob dydd. Rydym yn cynnig profiad dysgu ac addysgu rhagorol ac wedi derbyn dros 90% o foddhad cyffredinol yn yr Arolwg Addysg Uwchraddedig a Addysgir am y pedair blynedd diwethaf.

Ymchwil sy'n llywio ein holl addysgu, ac mae llawer o'r staff yn arbenigwyr yn eu meysydd. Rydym yn cynnig y cyfle i chi ddysgu gyda ni ac i fod yn rhan o'r rhwydwaith cyfeillgar, cefnogol hon o weithwyr proffesiynol gofal llygaid.

Mae ein rhaglenni'n cynnig llwybrau i weithwyr proffesiynol ym maes gofal llygaid sy'n astudio modiwlau unigol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ac ar gyfer y rhai sy'n dilyn dyfarniad Tystysgrif Uwchraddedig, Diploma Ôl-raddedig, neu MSc.

Achrediad

Mae llawer o'n modiwlau hefyd wedi'u hachredu gan y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC) neu Goleg yr Optometryddion tuag at Gymwysterau Proffesiynol Uwch ac mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u hachredu ar gyfer pwyntiau Addysg a Hyfforddiant Parhaus GOC (CET).

Postgraduate Optometry