Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn canolbwyntio ar ymchwil annibynnol, lle mae myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan ein hacademyddion rhagorol.

Rydym yn cynnig y rhaglenni PhD canlynol:

RhaglenCymhwyster

PhD in Vision Sciences

PhD, MPhil

Mae yna bedair thema ac o fewn pob un ceir yr ymchwil canlynol:

  • bioffiseg strwythurol
  • niwrowyddoniaeth gweledol
  • dirywiad retinol ac heneiddio
  • adferiad gweledol

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio mewn timoedd amlddisgyblaethol. Mae hyn yn eu galluogi i weithio'n gydweithredol ac i rannu gwybodaeth/sgiliau gyda phobl o wahanol gefndiroedd gwyddonol.

Cefnogi ymchwil ac hyfforddiant

Mae ein myfyrwyr PhD mewn cysylltiad rheolaidd gyda'u goruchwylwyr academaidd. Mae gan bob myfyriwr ymchwil ddesg a chyfrifiadur dynodedig mewn swyddfa a rennir gyda myfyrwyr eraill yn adeilad blaengar Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg.

Mae ymchwilwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn hyfforddiant trosglwyddo sgiliau a datblygiad personol/gyrfaol yn yr Ysgol ac yn yr Academi Ddoethurol.

Eich dyfodol

Mae swyddi posibl yn cynnwys cymrodoriaethau ôl-ddoethurol sy'n arwain at ddarlithyddiaethau o fewn prifysgolion, uwch benodiadau o fewn Ymddiriedolaethau'r GIG ac apwyntiadau gwasanaeth proffesiynol o fewn prif gwmnïau Optometrig, cyfleusterau ymchwil a ariennir gan y Llywodraeth (e.e. 'synchrotrons'), cwmnïau fferyllol, a diwydiannau eraill.

Mwy o wybodaeth

Ysgoloriaethau PhD sydd ar gael

Bydd ein tudalen ysgoloriaethau PhD a ariennir yn rhestru cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig pan fydd cyllid yn dod ar gael. Fel arfer, bydd cyllid yn talu am gostau blynyddol, yn ogystal â ffioedd dysgu ôl-raddedig yn ôl y gyfradd cartref / cyfradd yr UE.

Ceisiadau

Am ymholiadau cyffredinol am geisiadau cysylltwch â'r Tîm Ymchwil Ôl-raddedig. Efallai yr hoffech chi ddarllen ein gwybodaeth ar gyfer ceisiadau i astudio graddau ymchwil yn Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg.Rydym yn croesawu myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd gwyddonol yn cynnwys: biocemeg, bioleg, y biowyddorau, geneteg, meddygaeth, bioleg foleciwlaidd, niwrowyddoniaeth, optometreg, ffiseg, seicoleg, swoleg ayyb.

Ariannu

Mae sichrau cyllid yn mynd i fod yn ystyriaeth bwysig i chi fel myfyriwr ôl-raddedig. Mae yna rai opsiynau ar gael, yn cynnwys beth rydym ni'n ei gynnig a beth a gynigir gan gyrff allanol.

Dysgwch mwy am ariannu eich gradd ymchwil.

Bod yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd

Dysgwch mwy am ein graddau ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnwys cefnogaeth i ymchwilwyr, cyfleusterau a'n diwylliant ymchwil.