Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro R. (Bob) Churchhouse CBE

Ganed yr Athro R. F. Churchhouse CBE (Bob Churchhouse) ar 30 Rhagfyr, 1927 a chafodd ei fagu ym Manceinion, lle enillodd ysgoloriaeth i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Victoria.  Roedd Max Newman ac Alan Turing ymhlith ei athrawon, ill dau yn enwog erbyn hyn am eu gwaith yn Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar ôl astudio ar gyfer ei radd israddedig ym Manceinion, aeth yn ei flaen i Trinity Hall, Caergrawnt lle bu'n gweithio tuag at y Ddoethuriaeth a ddyfarnwyd iddo, sef PhD mewn damcaniaeth rhifau, o dan arweiniad un o ddamcaniaethwyr rhifau blaenllaw ei gyfnod, yr Athro Mordell.

Yn dilyn hynny, ym mis Mai 1952, aeth Bob i Wasanaeth Gwyddonol y Llynges Frenhinol, rhagflaenydd GCHQ, lle bu’n gweithio am 11 mlynedd yn Llundain, Cheltenham a hyd yn oed llysgenhadaeth y DU yn Washington, UDA. Yn y fan honno y daeth i gysylltiad â'r peiriant Enigma am y tro cyntaf, un o sawl cyfrinach gwladol ei gyfnod yn GCHQ y cadwodd yn dawel yn ei gylch.

Yn sgîl ei ddiddordeb mewn materion academaidd, cafodd ei benodi'n bennaeth rhaglennu yn Labordy Atlas yn Harwell (sefydliad oedd wedi'i ariannu'n ganolog i gynorthwyo â'r cyfrifiannau gwyddonol oedd eu hangen gan brifysgolion y DU). O ganlyniad i hynny bu Bob yn aelod o lawer o gyrff llywodraethol oedd yn gyfrifol am y ddarpariaeth gyfrifiadura i brifysgolion. Cyrhaeddodd hynny benllanw pan ddaeth yn aelod, ac yn ddiweddarach yn gadeirydd, o’r Bwrdd Cyfrifiaduron y dyfarnwyd CBE iddo amdano.

Ym 1970, cafodd Bob wahoddiad gan Bennaeth Coleg Prifysgol Caerdydd, ar y pryd, i sefydlu Adran Mathemateg Gyfrifiadurol newydd yng Nghaerdydd. Fe wnaeth hynny gan olygu mai ef oedd Athro a phennaeth cyntaf yr adran. Bu hefyd yn gyfarwyddwr Canolfan Gyfrifiaduron Prifysgol Caerdydd am gyfnod byr.

Y prif gymhelliant dros waith academaidd Bob oedd ei ddiddordeb mewn damcaniaeth rhifau. Ei ddull wrth y cam hwn yn ei yrfa oedd defnyddio pŵer cyfrifiaduron i fwrw amcan mewn damcaniaethau rhifau yn ogystal â defnyddio ambell un o'r awgrymiadau y sylwodd arnynt yn y cyfrifiannau i ddyfeisio profion mathemategol trylwyr. O'i ddyddiau cynnar ym Mhrifysgol Caerdydd, sylweddolodd Bob y byddai cyfrifiaduron yn treiddio i bob maes. Yn y 1970au, bu'n weithgar wrth wahodd ymwelwyr i Brifysgol Caerdydd oedd wedi dechrau defnyddio cyfrifiaduron mewn meysydd eraill y tu allan i'r gwyddorau ffisegol, fel y gyfraith, ieithyddiaeth, hanes a'r celfyddydau gweledol.

Yn ogystal â'i waith yn y Brifysgol ac ar gyfer y Llywodraeth yng Nghaerdydd, bu’n Babydd drwy gydol ei fywyd a helpodd i aildrefnu darpariaeth yr Eglwys ar gyfer addysg ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd. Bu hefyd yn llywodraethwr yng Ngholeg Chweched Dosbarth Dewi Sant. Cafodd ei anrhydeddu am y gwaith hwn drwy gael ei urddo'n Farchog Pabyddol.

Tuag at ddiwedd ei gyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd Bob yn aelod o Senedd y Brifysgol, ac yn Ddirprwy Bennaeth ar adeg uno'r Brifysgol gydag Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru. Roedd ei brosiectau academaidd olaf yn cynnwys y llyfr, Codes and Ciphers: Julius Caesar, the Enigma, and the Internet, ynghyd â nifer o ddarlithoedd poblogaidd ac academaidd oedd yn canolbwyntio ar y peiriant Enigma sydd bellach wedi'i ddi-ddosbarthu, a'r problemau oedd yn gysylltiedig â dehongli ei negeseuon yn Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ym 1954, fe briododd Julie McCarthey. Mae'n ei gadael hi, yn ogystal â'u tri mab, Gerald, Robert a John. Bu farw o fethiant y galon ar 27 Awst, 2018, yn 90 oed.

- Wedi’i ysgrifennu gan Michael Atkinson, Malcolm Brown, Fred Lunnon a Nelson Stephens