Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro David Moffat

Roedd yn flin iawn gan y Brifysgol glywed am farwolaeth yr Athro David Moffat ar 21 Mai 2017, cyn-aelod o staff yn Adran Anatomeg y Brifysgol.

Ar ôl ennill cryn brofiad yn llawfeddyg yn y Llynges, rhannodd David ei arbenigedd ymarferol enfawr am Anatomeg Ddynol â myfyrwyr meddygol Caerdydd. Yn benodol, roedd ganddo syniad clir iawn ynghylch faint y dylai israddedigion ei wybod am anatomeg y corff, a faint a ddylai gael ei ddysgu ymhellacj wrth astudio ar lefel ôl-raddedig ar ôl cymhwyso. Nid oedd rhai o’i gydweithwyr yng Nghaerdydd oedd â barn fwy traddodiadol yn cytuno a’i safbwyntiau bob amser!

Roedd David yn athro difyr ac ysbrydoledig ac roedd ganddo’r ddawn brin i egluro strwythurau tri dimensiwn drwy wneud lluniau dau ddimensiwn â sialc ar fwrdd du. Roedd yn ffisiolegydd arennol gyda diddordeb penodol mewn microgylchrediad yr aren, ac roedd ei ymchwil yn cyfuno microstrwythur â swyddogaeth wrth yr organ. Roedd yn rhoi o’i amser yn hael i eraill, yn ffraeth ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr, yn enwedig gan ei gydweithwyr iau.