Ewch i’r prif gynnwys

Michael Chiles

Bu farw fy nhad, Michael John Chiles, yn dawel ar 25 Ebrill 2017, yn 80 oed.

Cafodd yrfa helaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddechrau ym 1977 fel Cyfarwyddwr Astudiaethau yn y Ganolfan Saesneg i Fyfyrwyr Tramor ym Mhrifysgol Caerdydd (CUECOS), sef y Swyddfa Ryngwladol erbyn hyn. Ar ôl hynny, cymerodd yr awenau fel Pennaeth yr Adran, ar ôl i Francis Harris ymddeol, a chafodd CUECOS ei hailenwi y Ganolfan Iaith Saesneg ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol (ELCIS). Bu iddo ymddeol ym 1998.

Cyfarfu fy rhieni ym Mhrifysgol Caerdydd 60 mlynedd yn ôl, pan oedd y ddau ohonynt yn fyfyrwyr.  Roedd fy nhad yn eithriadol o weithgar yng nghylchoedd y Brifysgol yn ei rôl fel Ysgrifennydd y Gymdeithas Cynfyfyrwyr. Roedd yn goruchwylio arholiadau haf myfyrwyr, roedd yn hoff iawn o fynd i'r Ystafell Fwyta i Staff yn Neuadd Aberdâr, ac yn boblogaidd iawn yno.

Bydd ei deulu a'i ffrindiau'n dathlu ei fywyd ddydd Sadwrn 20 Mai yn Neuadd Aberdâr, 3–6pm. Mae croeso cynnes i bawb oedd yn ei adnabod.

Samantha Chiles