Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Michael (Mike) Brooks

Mae'n flin gennym roi gwybod am farwolaeth yr Athro Michael (Mike) Brooks.

Ganed Mike yn Crewe i deulu o weithwyr rheilffordd. Graddiodd gyda BSc mewn Daeareg, cyn cwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Birmingham ar ddadansoddi canlyniadau daearyddol disgyrchiant, ac arolygon magnetig o fryniau Malvern. Ym 1960, dechreuodd ei swydd gyntaf fel geoffisegwr gyda’r sefydliad sy’n cael ei adnabod erbyn hyn fel Arolwg Daearegol Prydain. Yn dilyn hynny, symudodd Mike i swydd ddarlithio yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, gan ddechrau grŵp ymchwil geoffiseg PhD cwbl newydd yn yr Adran. Wedi hynny, penodwyd Mike yr Athro Daeareg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd ac yn Bennaeth Adran ym 1977. Ymddeolodd Mike yn gynnar o Brifysgol Caerdydd ym 1993.

Roedd y 1970au yn gyfnod o newid mawr ym maes Gwyddorau Daear byd-eang, gyda’r chwyldro plât tectonig o dan arweiniad technegau ymchwil geoffisegol newydd cyffrous, megis adlewyrchiad seismig, yn cael eu cymhwyso at ddibenion archwiliad geoffisegol o hydrocarbonau byd-eang.  Ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd Mike yn wynebu tasg enfawr o foderneiddio pob agwedd ar yr Adran Ddaeareg, gan gynnwys addysgu, ymchwil ac adnoddau offer, yn ystod cyfnod anodd o gythrwfl ariannol. Ar ddiwedd y 1970au a'r 1980au, daeth Adran Ddaeareg Caerdydd yn arweinydd ym maes ymchwil palaeomagneteg, archwilio seismig ac ymchwil daearegol. Ar ôl penodi tîm o ymchwilwyr geoffisegol, cyflwynodd Mike radd BSc newydd mewn Geoffiseg, wedi’i haddysgu ar y cyd â Ffiseg. Mae llawer o fyfyrwyr wnaeth raddio gyda gradd BSc Geoffiseg bellach yn weithwyr llwyddiannus yn y diwydiant hydrocarbonau byd-eang, ac yn ymchwilwyr mewn nifer o ysgolion ymchwil mewn prifysgolion. Yn ogystal, cefnogodd Mike ôl-raddedigion entrepreneuraidd wrth iddynt sefydlu eu hymgyngoriaethau llwyddiannus personol ynghylch geoffiseg, megis Terradat Cyf. sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd.

Yn ystod ei gyfnod fel Pennaeth Adran, aeth Mike i’r afael â chyfres o newidiadau radical: uno CORC/UWIST a throsglwyddiadau staff yn fewnol, wedyn, yn sgil cau’r Adran Ymelwa o Fwynau. Yn ogystal, rheolodd y broses o uno Adran Ddaeareg Prifysgol Caerdydd ac Adran Ddaeareg a Gwyddorau’r Môr Prifysgol Abertawe - a orfodwyd gan y llywodraeth - i greu gwaddol Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Drwy gydol y cyfnod hwn o gythrwfl gweinyddol, pan oedd yn Bennaeth Adran, hynod iawn oedd llwyddiant Mike i gadw ei ddiddordebau ymchwil, ennill digon o arian allanol i'w cynnal a chyhoeddi ei ganlyniadau mewn manylder trylwyr. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn cymhwyso’r technegau adlewyrchu seismig digidol newydd ar gyfer archwilio daeareg ddofn de orllewin y DU, a hefyd i ddod i ddeall patrymau tectoneg platiau a daeargrynfeydd rhanbarth môr y Canoldir dwyreiniol. Yn ogystal, gwnaeth ddefnydd ymarferol o donnau seismig a gynhyrchwyd gan ffrwydradau dyddiol o greigiau mewn nifer o chwareli yn ne Cymru a Dyfnaint, drwy anfon timau o fyfyrwyr i eistedd am oriau mewn amrywiaeth eang o leoliadau gyda seismometerau, er mwyn dod i adnabod strwythur daearegol dwfn ardal de orllewin Lloegr yn well.

Go debyg mae’r hyn oedd Mike yn fwyaf brwd yn ei gylch oedd diweddaru addysg a hyfforddiant ddaearegol ar bob lefel.  Diweddarodd Mike y rhaglenni addysgu yn radical, i adlewyrchu’r chwyldro ym maes ymchwil. Roedd yn aml yn cyflogi myfyrwyr BSc i’w helpu gyda’i raglenni ymchwil yn ei faes ei hun, fel arloeswr gwirioneddol o addysgu ‘wedi’i arwain gan ymchwil. Ar ôl cyrraedd Caerdydd, fe arweiniodd ei ddiddordebau mewn mabwysiadu dulliau newydd o addysgu ac asesu at wirfoddoli’n yr Adran Ddaeareg i dreialu system fodiwlar o addysgu ac arholi, flwyddyn cyn ei fabwysiadu gan y Coleg cyfan. Hyd yn oed gyda dyletswyddau beichus Pennaeth yr Ysgol, parhaodd Mike i addysgu modiwl blaenllaw i bawb ym mlwyddyn 1 ar Strwythur y Ddaear, yn ogystal â modiwlau Geoffiseg Uwch ym mlynyddoedd 2 a 3. Ailwampiodd waith maes yn ei gyfanrwydd, a pharhaodd i fod yn hyrwyddwr brwdfrydig o fynd â myfyrwyr i'r maes i ddysgu sgiliau allweddol mewn modd ymarferol. Mae ei werslyfr ar archwilio geoffisegol fel awdur ar y cyd (Kearey a Brooks) yn llwyddiannus dros ben; mae wedi cael ei gyhoeddi mewn tri rhifyn a’i gyfieithu i sawl iaith dramor.

Fel arloeswr ymgysylltu ac allgymorth y Brifysgol, sicrhaodd bod cyllid i’w gael i benodi swyddog prosiect i ddatblygu adnoddau addysgu a chyrsiau HMS, er mwyn cynorthwyo ysgolion cynradd i addysgu ynghylch gwyddoniaeth y Ddaear fel rhan o Wyddoniaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Roedd Mike yn weithgar yng Nghymdeithas Ddaearegol Llundain, a daeth yn yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Addysg y Gymdeithas a Sefydliad y Daearegwyr. Ar ôl ymddeol, bu’n Swyddog Addysgu a Hyfforddi rhan amser y Gymdeithas Ddaearegol, rhwng 1994 a 2001. Yn y rôl hon, chwaraeodd rhan flaenllaw mewn sefydlu cynllun achredu a weithredir gan y Gymdeithas Ddaearegol ar gyfer cyrsiau geowyddorau mewn prifysgolion. Mae'r cynllun achredu proffesiynol hwn yn parhau i sicrhau bod isafswm y diwrnodau ar gyfer hyfforddiant gwaeth maes, a safonau’r gwaith hwnnw, yn parhau i gael eu cynnal yn y rhaglenni gradd BSc Geowyddoniaeth. Heb yr achrediad proffesiynol hwn - sy’n cael ei gydnabod fel nod ansawdd gan gyflogwyr - gallai sgiliau gwaith maes allweddol gael eu gostwng, neu hyd yn oed eu diddymu, mewn cyrsiau gradd israddedig gan brifysgolion sy’n awyddus i dorri costau. Ar lefel ysgol, roedd Mike yn gysylltiedig â Chyd-bwyllgor Addysg Cymru am dros 25 mlynedd, fel aseswr Daeareg ar lefel TGAU, Safon Uwch ac Uwch Atodol. Bu’n Gadeirydd Arholwyr a Chyd-gadeirydd Grwpiau Adolygu Cwricwlwm.

Yn ogystal â dyletswyddau Prifysgol, roedd Mike yn aelod o nifer o bwyllgorau Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC): Grantiau ymchwil (1979–82); Cadeirydd Gwobrau Hyfforddiant mewn Gwyddorau Daearegol (1984–87), Gwyddorau’r Ddaear a Materion y Brifysgol (1984–87) a nifer o grwpiau gwaith.  Roedd yn Gadeirydd Grŵp Cymdeithas Daearegwyr De Cymru rhwng 1972 ac 1974.   Yn y Gymdeithas Ddaearegol, bu'n aelod o’r Cyngor fel Is-Lywydd, ar grwpiau arbenigol a’r Bwrdd Cyhoeddiadau a Golygyddol. Roedd hefyd yn aelod o Fwrdd Rhaglen Arolwg Ddaearegol Prydain (1992–95).

Fel dyn â chanddo egni a gweledigaeth aruthrol, roedd Mike yn ffrind ac yn fentor brwdfrydig - a beirniadol, ar adegau - i lawer. Mae nifer o fyfyrwyr yn ei gofio’n cynnal ei ddarlithoedd o’r frest, gan ysgrifennu’n wyllt ar fwrdd gwyn gyda dim ond sleidiau 35mm fel darluniau. Fe wnaeth ei frwdfrydedd llwyr dros geoffiseg gymhwysol ysbrydoli llawer o'i fyfyrwyr i ddilyn gyrfaoedd gydol oes yn y pwnc.  Mae ar Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd ddyled enfawr o ddiolch i Mike am lywio’r pwnc drwy gyfnod o newid chwyldroadol, sydd wedi cynhyrchu gwaith ymchwil a sylfaeni addysgu’r Ysgol bresennol. Rydym yn cydymdeimlo â’i wraig Cathie, a phlant Mike.

- Dr Peter Brabham, Yr Athro Dianne Edwards FRS, Yr Athro Bernard Leake.