Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Anrhydeddus Nodedig David Vernon Morgan

Professor David Vernon Morgan

Gyda thristwch mawr y mae’r Brifysgol yn cyhoeddi marwolaeth yr Athro Anrhydeddus Nodedig David Vernon Morgan (neu Vernon, fel yr adwaenid ef).

Ymunodd Vernon â’r Brifysgol yn 1985 yn Athro Microelectroneg ac yn 1992 daeth yn Bennaeth ar yr Adran Peirianneg Trydanol, Electronig a Systemau, ac yn ddiweddarach yn Bennaeth ar Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd tan 2002.  Bu farw Vernon yn ei gartref yng Nghaerdydd ddydd Llun, 12 Mehefin 2017.

Enillodd ei raddau BSc ac MSc yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ei PhD yng Ngholeg Gonville a Caius a Labordy Cavendish ym Mhrifysgol Caergrawnt, a’i DSc (Eng) ym Mhrifysgol Leeds.  Bu’n dal Cymrodoriaeth Prifysgol Cymru yn Labordy Cavendish, Caergrawnt (1966-68), a Chymrodoriaeth Harwell (1968-70).  Yn 1970 fe'i penodwyd i swydd cyfadran ym Mhrifysgol Leeds, lle’r arhosodd nes iddo ymuno â Chaerdydd ym 1985.  Treuliodd amser hefyd yn wyddonydd gwadd ym Mhrifysgol Aarhus, Denmarc (1971), yn Labordy Niwclear Chalk River yng Nghanada (1972 a 1974), a bu’n Athro Gwadd ym Mhrifysgol Cornell (1978 a 1979), yn ogystal â bod yn Aelod Cyswllt Gwadd (1980 a 1981). Yng Nghaerdydd, yn ogystal â bod yn Athro Ymchwil Nodedig, roedd Vernon yn Gyd-Gyfarwyddwr (gyda Robin Williams) ar Ganolfan Lled-ddargludyddion a Microelectroneg III-V Caerdydd a bu’n ddylanwad pwysig wrth ddatblygu’r maes ymchwil hwn ym Mhrifysgol Caerdydd.   Gosodd ei waith y sylfeini a alluogodd Gaerdydd i ddod i’r amlwg yn ddiweddar fel canolbwynt ledled y byd ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd. Helpodd Mike Scott i sefydlu cwmni Epitaxial Products International, rhagflaenydd yr IQE byd-enwog, sydd wedi dod yn CCC cartref mwyaf Cymru. Roedd ei ddiddordebau ymchwil yn cwmpasu ffiseg a thechnoleg deunyddiau lled-ddargludyddion, dyfeisiau a chylchedau integredig, gyda phwyslais arbennig ar y defnydd o galiwm arsenid.  Roedd hyn yn cynnwys astudiaethau mewnblannu ïonau, systemau metaleiddio, nodweddion diffygion ac arwynebau, ynghyd ag astudiaethau efelychu dyfeisiau.   Arhosodd yn yr Ysgol Peirianneg yn athro ac yn ymchwilydd gweithredol tan ei ymddeoliad yn 2010, pan ddaeth yn Athro Anrhydeddus Nodedig.

Bu’n gweithredu fel ymgynghorydd ym maes microelectroneg a deunyddiau lled-ddargludyddion i sefydliadau amrywiol yn y Deyrnas Unedig, UDA a Chanada, ac yn gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau a byrddau y Sefydliad Ffiseg, Sefydliad y Peirianwyr Trydanol, y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth a Pheirianneg.  Ysgrifennodd dri gwerslyfr, ac roedd yn Gyd-olygydd ar Gyfres Wiley o saith llyfr ar Ddyfeisiau Cyflwr Solet a Chylchedau, yn ogystal ag yn olygydd ar bedwar llyfr ymchwil ar ddyfeisiau a systemau microdon.   Ef oedd Golygydd Sefydlu ac Ewropeaidd Cyfres Ryngwladol Wiley ar “Design and Measurement in Electronic Engineering” ac roedd yn Ymgynghorydd Golygyddol i Wiley ar ddeunyddiau a dyfeisiau electronig.   Bu’n Gadeirydd ar Bwyllgor Cyhoeddi Llyfrau yr IEE ac yn Gyfarwyddwr anweithredol i IEE Publishing (1990-2002).

O dan arweinyddiaeth Vernon, daeth Ysgol Peirianneg Caerdydd yn un o’r amlycaf yn y Deyrnas Unedig.  Derbyniodd Gymrodoriaeth yn 2006 am gyflawniadau ymchwil gan ei alma mater Prifysgol Cymru, Aberystwyth, roedd yn Gynghorydd i Gyngor Ymgynghorol Gwyddonol y Weinyddiaeth Amddiffyn ar Ddeunyddiau Electronig, fe’i etholwyd i Gymrodoriaeth o'r Academi Beirianneg Frenhinol ym 1996, roedd yn Gymrawd y Sefydliad City & Guilds, yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, yn Is-lywydd y Sefydliad Ffiseg (IOP) (1992-96), yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg, yn Gymrawd y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), ac yn aelod uwch o’r IEEE  (UDA). Bu Vernon hefyd yn gwasanaethu fel Aelod o baneli Ymarferiad Asesu Ymchwil llywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2001 a 2007 ar gyfer Peirianneg Trydanol ac Electronig.  Yn 2004 dyfarnwyd Croes y Babaeth i Vernon gan y Pab John Paul II (Pro Ecclesia et Pontifica) am Wasanaeth Nodedig i Addysg Uwch.

Ar ôl ymddeol, roedd Vernon yn aelod gweithgar o Sefydliad Peirianwyr De Cymru, a hefyd yn Gymrawd brwd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW). Chwaraeodd ran allweddol wrth sefydlu Medal Menalaus am Beirianneg a Gwyddoniaeth a ddyfarnir gan yr LSW, a bu hefyd yn ymwneud â threfnu Darlith Goffa Menelaus, digwyddiad o fri a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd bob blwyddyn.

Bydd pawb oedd yn ei adnabod yn gweld eisiau Vernon yn fawr. Mae hyn yn cynnwys sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig y bu’n ysbrydoliaeth iddynt, a’r academyddion gyrfa gynnar yr oedd bob amser yn cael hyd i amser i’w mentora. Mae’n gadael ei wraig Jean, ei ferch Suzanne, ei fab Dyfrig, a'u teuluoedd.