Ewch i’r prif gynnwys

Eric Markland

Bydd yn flin gan gydweithwyr o gyn-Goleg Prifysgol, Caerdydd (UCC) glywed y bu farw Eric Markland PhD, DSc, Athro a Phennaeth yr Adran Peirianneg Fecanyddol o 1970 nes iddo ymddeol ym 1983.

Cafodd Eric ei eni ar Ddiwrnod Sant Siôr ym 1923 a thyfodd i fyny yn Atherton, tref fach oedd yn mwyngloddio a nyddu cotwm gan fwyaf, tua phum milltir o Bolton.  Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Bolton ac yn nes ymlaen, gradd mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Manceinion. O dan amodau adeg ryfel, roedd myfyrwyr yn gweithio pedwar tymor y flwyddyn bryd hynny.  Ac yntau’n arbenigo ym maes dynameg hylif, roedd yn hynod falch o fod wedi astudio yn adran oedd yn arfer cael ei arwain gan Osborne Reynolds, ffigwr blaenllaw yn y maes. Roedd copi o baentiad o Reynolds yn hongian yn amlwg y tu ôl i’w ddesg yn ei swyddfa.

Graddiodd gydag Anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1943 cyn cael ei anfon yn syth i weithio i’r Sefydliad Awyrennau Brenhinol (RAE) gan y Weinyddiaeth Gynhyrchu Awyrennau lle ymunodd â thîm oedd yn cynnal y twnnel gwynt mawr.  Yn fuan ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, aeth i’r Almaen yn rhan o dîm i archwilio cyflwr cyfleusterau awyrennol yr Almaen.  Gadawodd yr RAE ym 1946 i ymgymryd â phrentisiaeth gyda chwmni peirianneg sifil yn Llundain.  Cwrddodd â Nancy yn Farnborough ym 1947, ac aeth y ddau ymlaen i briodi.  Ar ôl bwrw ei brentisiaeth, cafodd ei benodi’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Nottingham.  

Ym 1966, daeth yn gadeirydd ym Mhrifysgol Queen’s Belfast, lle roedd yn disgwyl aros gyda’i wraig a’i deulu am lawer o flynyddoedd, ond dechreuodd y Trafferthion dair blynedd yn unig ar ôl iddo gyrraedd.  Derbyniodd wahoddiad annisgwyl i gadeirio Peirianneg Fecanyddol yn UCC. Yn syth ar ôl cyrraedd, aeth ati i wella’r gweithgarwch ymchwil a’r perfformiad. Bryd hynny, dim ond un myfyriwr ymchwil oedd gan yr adran, ond erbyn iddo ymddeol roedd tua thri deg o staff ymchwil, ac roedd incwm iach gan gontractau ymchwil hefyd.  

Cynhaliwyd yr Ymarfer Asesu Ymchwil cyntaf ym mlwyddyn ei ymddeoliad ac enillodd yr adran Peirianneg Fecanyddol y sgôr uchaf.  Fe benododd nifer o aelodau staff pwysig oedd yn sail i lwyddiant yr adran o ran mesuriadau perfformiad addysgu ac ymchwil ymhell wedi iddo ymddeol yn gymharol ifanc yn 60 oed.  

Roedd diddordeb mawr gan Eric bob amser yn staff ymchwil a myfyrwyr ymchwil ei adran, ac roedd yn hael ei anogaeth a’i gymhelliant. Wedi iddo ymddeol, parhaodd Eric i fod yn ymgynghorydd proffesiynol, ac roedd yn aelod chwedlonol a blaenllaw o Glwb Crwydrwyr Caerdydd (Cardiff Ramblers Club) ymhell i’w wythdegau.  Bu farw ei wraig Nancy yn 2001.  Mae’n gadael ei ddwy ferch, Sally a Ruth.