Ewch i’r prif gynnwys

Dr J R (Dick) Dickinson

A photograph of Dr J R (Dick) Dickinson
Dr J R (Dick) Dickinson

Astudiaethau sylfaenol pwysig a manteisio ar furumau mewn diwydiant

Byddwn yn gweld eisiau Dick yn fawr am ei gymeriad hwyliog a’i gyngor call i bawb. Bu’n un o’n cydweithwyr rhwng 1983 a’i ymddeoliad cynnar yn 2009. Roedd safon yr oruchwyliaeth fanwl a roddodd i fyfyrwyr yn chwedlonol, yn gyntaf yn Adran Microbioleg Coleg Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru, wedi hynny yn yr Ysgol Bioleg Bur a Chymhwysol, ac yn olaf yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd. Roedd yn ddyn swil a gallai ymddangos ychydig yn swta wrth gwrdd ag ef am y tro cyntaf (yn enwedig i fyfyrwyr), ond o dan yw wyneb roedd dyn caredig a chymwynasgar oedd yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan israddedigion ac ôl-raddedigion.

Ar ôl graddio mewn Cemeg Fiolegol ym Mhrifysgol Warwick, cynigiodd PhD Dick ddealltwriaeth newydd a gwerthfawr o’r modd y mae AMP a GMP cylchol yn rheoli cylchedau rhannu celloedd mewn protist ciliedig, Tetrahymena pyriformis. Dyma system fodelu oedd wedi gwella ein dealltwriaeth yn fawr ers yr astudiaethau maethol cynnar ac ynghylch sut mae celloedd yn tyfu ac yn atgynhyrchu. Drwy weithio gyda B.E.P Swoboda, llwyddodd Dick i berffeithio dull newydd o gynhyrchu meithriniadau rhannu celloedd drwy ddefnyddio sioc hypocsig unigol. Aeth ati wedyn i ddangos pa mor bwysig yw newid maint cronfeydd niwcleotidau cylchol mewngellog (AMP a GMP) wrth reoleiddio cylchoedd rhannu celloedd olynol.

Pan oedd yn fyfyriwr ôl-raddedig yn Adran Microbioleg yng Nghaeredin, dechreuodd Dick ddefnyddio ei brofiad o brosesau sylfaenol ffisioleg celloedd mewn astudiaethau tebyg mewn burum pobyddion a’r llu o fwtantiaid sydd ar gael yno. Dyma fan cychwyn ei ymroddiad gydol oes i astudio’r organebau hyn. Yn ôl pob golwg, byddai burumau (sy’n cynnwys 6,604 o enynnau yn unig) yn bwnc ymchwil eithaf astrus. Fodd bynnag, maent wedi bod yn systemau modelu gwych er mwyn cael dealltwriaeth fanwl o brosesau cellog, gan gynnwys metabolaeth, rheoli achosion o afiechydon dynol yn enetig, a phrosesau heneiddio.

Ym 1982, creodd Gynllun Biodechnoleg Pwyllgor Grantiau’r Prifysgolion swyddi penodol i ddarlithwyr i hyrwyddo’r cyfleoedd cynyddol oedd yn cael eu cynnig drwy ddefnyddio gweithgareddau amrywiol y micro-organebau ar gyfer prosesau diwydiannol. Cafodd un o'r swyddi hyn ei dyrannu ar y cyd i Goleg Prifysgol Caerdydd ac Athrofa Gwyddorau a Thechnoleg Prifysgol Cymru. Fodd bynnag, buan iawn y cafodd yr Athro Bill Bevan ei ddarbwyllo y gallai ein Coleg ymdopi â’r rôl ar ei ben ei hun (roedd hyn 5 mlynedd cyn uno’r Coleg a’r Athrofa), a phenderfynodd y pwyllgor benodi Dick oedd ar restr fer hynod gystadleuol. Roedd Dick ben ac ysgwyddau uwchben yr ymgeiswyr eraill, yn enwedig o ystyried ei fod eisoes yn gyfarwydd â thechnegau treiddio i mewn i lwybrau biogemegol in vivo, drwy ddefnyddio atsain magnetig 13C-niwclear gyda Dr D.E. Griffiths yn Warwick a Dr R L  Baxter a Dr A S Boyd yng Nghaeredin.      Yn wir, am 20 mlynedd gyda Dr M J Jenkins o’r Adran Cemeg yng Nghaerdydd, llwyddodd y dull hwn i gynhyrchu cyfoeth o wybodaeth a chyhoeddiadau am fetabolaeth burum.   Roedd datblygu sbectrometreg màs o fewndyllau pilenni er mwyn mesur nwyon ar-lein yn barhaus ac ar yr un pryd, eisoes yn rhaglen bwysig yn yr Adran Microbioleg. Drwy gyfuno hyn yn uniongyrchol â sbectometer NMR Varian XL-100 25 MHz ail-law a chynnar (o Brifysgol Caeredin), roedd modd i Dick berffeithio techneg gymysg newydd oedd yn edrych ar effeithiau nwyon toddedig a reolir (hydrogen, ocsigen, carbon deuocsid) ar gyfraddau eplesu ac adweithiau ensym. Gweithiodd Allan Coughlin o'r Ysgol Peirianneg yn galed dros ben ar nosweithiau ac ar benwythnosau gyda Dick i gynnal y peiriant NMR. Mae’r ddau ddull (sy’n cael eu defnyddio ar wahân yn unig) yn parhau i fod o ddefnydd mewn gweithgareddau monitro prosesau diwydiannol, meddygol, amaethyddol ac amgylcheddol.

Rhoddodd dyfodiad yr Athro P K (Pab) Maitra o Athrofa Ymchwil Sylfaenol Tata yn Bombay ym 1985 hwb enfawr i ymchwil am furum yng ngrŵp Dick ac i eraill yn Adran Microbioleg Caerdydd.  Yn ogystal â’i frwdfrydedd mawr dros griced, Cymru a Scotch, roedd gan Pab enw da amlwg ym maes gwahanu mwtantiaid a’i allu i samplu a chynnal profion cyflym fflŵorimetrig o gydynsymau a metabolion (bob eiliad). Roedd y rhain yn cynnwys atal celloedd byw, sgiliau a berffeithiwyd ganddo fel yr ôl-radd Indiaidd cyntaf yn yr Adran Bioffiseg gyda Britton Chance ym Mhrifysgol Pennsylvania. Roedd Pab eisoes yn arloeswr gan mai ef oedd y cyntaf i wahanu mwtantiaid glycolig (gyda siwgr metabolaeth diffygiol) mewn burum. Daeth â'i gasgliad gydag ef, ac fe dreuliodd Dick a’i fyfyrwyr, gyda chymorth ei gynorthwy-ydd technegol medrus A S (Tony) Williams, flynyddoedd yn defnyddio rhai o’r straeniau hyn i gyhoeddi am sawl agwedd ar fiocemeg, rheoli geneteg, morffoleg, datblygiad a sborynnu burum.  Cyrhaeddodd Zita Lobo, gwraig Pab, o India ym 1995 gyda swp o fwtantiaid oedd newydd eu gwahanu. Gyda Dick a Carole Winters, aethant ati i’w nodweddu’n fiocemegol a defnyddio microsgopeg electron.

Rhwng 2000 a 2005, gyda biolegwyr planhigion Prifysgol Caerdydd, Hillary Rogers a Dennis Francis, manteisiodd Dick ar y gyfatebiaeth rhwng burum ymhollti ac Arabidopsis, a thrwy hynny eu galluogi i gynnal proses dreiddio foleciwlaidd o systemau rheoli cylchoedd rhannu celloedd planhigion.

Gyda Dr S Hiom, yr Athro Denver Russell a Dr Jim Furr o Ysgol Fferylliaeth Cymru, helpodd Dick i amlygu dulliau gweithredu diheintyddion, diacetat chlorhexidine a chlorid cetylpyridinium ar furum pobyddion a dwy rywogaeth Candida bathogenig.

Ym 1993, dechreuodd Dick gyfres o astudiaethau tymor hir am fetaboledd asidau amino cangen-gadwyn ac alcoholau cymhleth a’u hesterau (‘olewau ffiwsel’); mewn crynodiadau isel, mae’r cyfansoddion hyn yn cyfrannu at flasau dymunol bwyd a diodydd eplesedig, ond maent hefyd yn gyfrifol am ormodedd o flasau cas mewn bwyd a diodydd. O ganlyniad i gydweithio â Bill Lancashire oedd yn gweithio yn y diwydiant bragu, enillodd Prifysgol Caerdydd batent ym 1995.  Ers blynyddoedd lawer, mae cynhyrchu metabolion burum ar lefel diwydiannol, yn ogystal â chynnyrch protein straeniau burum a gynhyrchir yn eneteg (yn enwedig inswlin) wedi bod yn waith llwyddiannus a masnachol bwysig. Yn labordai microbioleg Caerdydd, o dan stiwardiaeth Dick, fe gefnogodd Whitbread plc waith biodrawsffurfio terpenoid gan furum hops a chwrw. Roedd rheoli blas cwrw yn bwnc a ymchwiliwyd ar y cyd â’r Ganolfan Ymchwil Bragu Genedlaethol yn Nutfield, Surrey, yn ogystal â chamau ensymatig mewn llwybrau synthesis fanilin synthetig gyda’r Athro A.rjan Narbad o’r Sefydliad Bwyd yn Norwich. Mae llawer o gynfyfyrwyr Dick wedi ennill eu plwyf fel arweinwyr yn y diwydiannau hyn.

Ym 1999, cyhoeddwyd argraffiad cyntaf o'r gyfrol ‘The Metabolism and Molecular Physiology of Saccharomyces cerevisiae’ a gyd-olygwyd gan Dick gyda’r Athro M Schweitzer, oedd yn Bennaeth Geneteg bryd hynny yn y Sefydliad Ymchwil Bwyd. Cafodd ail argraffiad y llyfr hwn, a ddyfynnir yn helaeth, ei gyhoeddi yn 2004.  Erbyn hynny, roedd cyfnod sabothol ym Mhrifysgol De Cymru Newydd gyda’r Athro Ian Dawes, yn ogystal â’i ymweliadau blynyddol fel Athro Ymweliadol gyda’r Athro M Breitenbach ym Mhrifysgol Salzburg, wedi cynnau agwedd bwysig arall ar ymchwil am furum, sef rôl niweidiol rhywogaethau radical ocsigen a gynhyrchir gan mitochondria wrth i fam-gelloedd burum heneiddio. Dyma brosesau sydd wedi rhoi llawer o wybodaeth am achosion uwch o ddiffygion mewn celloedd, necrosis ac apoptosis, yn ogystal â salwch dynol sy'n gysylltiedig ag oedran.

Heblaw am ei weithgareddau ymchwil, chwaraeodd Dick rôl lawn yn addysgu ôl-raddedigion oedd yn amrywio o addysgu lefel mynediad mewn cemeg i gyrsiau Anrhydedd blwyddyn olaf am themâu biolegol. Roedd ei rolau gweinyddol yn cynnwys cyfnodau fel cadeirydd y Grŵp Addysgu Microbioleg yn ogystal â blynyddoedd ar Gyngor y Brifysgol. Mewn pwyllgorau, byddai’n barod i ddweud beth oedd ar ei feddwl. Gallai hynny gynnig cryn adloniant ac ysgafnder oedd i’w groesawu ar adegau.

Yn anad dim, y teulu oedd yn dod gyntaf i Dick. Ymfalchïodd yn fawr yn ei ferched, Jenny a Lesley, wrth iddyn nhw ddatblygu eu gyrfaoedd ym meysydd meddygaeth a cherddoriaeth. Daeth Jenny yn feddyg teulu ac aeth Lesley yn ei blaen i ddilyn gyrfa fel athrawes ar ôl treulio cyfnod byr yn chwarae mewn nifer o gerddorfeydd proffesiynol. Ar ôl ymddeol fel Darllenydd yn 2009, symudodd Dick a Diane i bentref Cotton yn Suffolk. Yno, fe gafodd amser i fwynhau garddio, un o’i ddiddordebau gydol oes, ac roedd wrth ei fodd yn chwarae â'i wyrion, Charlotte, Hugo, Oliver a William bob cyfle posibl.

Bu farw Dick farw yn annisgwyl ar 25 Ebrill 2017, yn 64 oed, ar ôl salwch byr iawn.

Daeth llawer o’i ffrindiau a’i gydweithwyr, o Brydain a thramor, i’w angladd ar 31 Mai.

Rydym yn galaru ei farwolaeth ac yn ei gofio gydag anwyldeb mawr.

David Lloyd, Al Venables a Diane Dickinson