Ewch i’r prif gynnwys

Don Barry

Bu Don Barry – darlithydd mewn Hanes Economaidd a Cyfarwyddwr Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol – farw’n dawel tra ar wyliau yn Sbaen ar 1 Rhagfyr, 2017. Roedd gan Don gysylltiad hir â Phrifysgol Caerdydd, yn ymestyn am oddeutu 50 mlynedd tan iddo ymddeol yn 2012. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Don wedi sefydlu ei hun fel athro a mentor ysbrydoledig, er y caiff ei gofio’n arbennig am y rôl allweddol y gwnaeth ei chwarae wrth ddatblygu recriwtio myfyrwyr rhyngwladol.

Ganwyd Don ar 22ain Rhagfyr 1944 ym Merthyr Tudful. Aeth i Ysgol Ramadeg Mynwent y Crynwyr, cyn graddio ym 1965 o Goleg Prifysgol Caerdydd, gyda gradd mewn Economeg. Yn dilyn hynny, dechreuodd – fel myfyriwr ymchwil – ar raglen Meistr dwy flynedd mewn Economeg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, ac yn ystod yr amser hwn, rhyw chwe mis ar ôl cwblhau'r rhaglen, y penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol mewn Hanes Economaidd.

Yn y blynyddoedd i ddilyn sefydlodd Don, ynghyd â’i gydweithiwr, Colin Baber, Hanes Economaidd fel elfen allweddol o'r rhaglen gradd Economeg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd. Roedd ei ddarlithoedd ar hanes economaidd Prydain yn ystod y rhyfel ac yn dilyn y rhyfel, yn boblogaidd iawn gyda myfyrwyr am y diddordeb a ysgogwyd ganddynt yn yr adegau pwysig hyn yn economi Prydain, yn ogystal â’r huodledd a’r brwdfrydedd oedd ynghlwm wrth gyflwyno’r darlithoedd hynny. Yn nyddiau ‘sialc a siarad’, roedd gan Don y gallu i ymgysylltu â myfyrwyr â'i ddadansoddi clir a miniog, fel arfer yn darlithio heb gyfeirio at nodiadau, ond bob amser yn cyflwyno darlithoedd oedd wedi’u strwythuro’n ofalus ac yn gyfoeth o hanesion a hiwmor. Roedd Don yn oruchwyliwr traethawd hir cefnogol, yn annog ar bob adeg ac yn gweld y potensial ym mhobl hyd yn oed os, efallai, na allent weld y potensial hwnnw drostynt eu hunain. Gyda balchder mawr, gwelodd Don nifer o’i fyfyrwyr yn mynd yn eu blaenau i brofi llwyddiant sylweddol yn y byd academaidd yn ogystal â diwydiant – nid balchder iddo ef ei hun, ond balchder yn yr hyn a gyflawnwyd gan y myfyrwyr eu hunain.

Yn dilyn uno Coleg Prifysgol Caerdydd ac UWIST ym 1989, symudodd Don i Ysgol Fusnes Caerdydd a dechreuodd ei rôl i newid ar yr adeg hon. Ar y pryd, rhywbeth prin oedd academyddion yn ymwneud â recriwtio myfyrwyr rhyngwladol. Teimlai'r Cyfarwyddwr (Deon) yr Ysgol Busnes ar y pryd – yr Athro Roger Mansfield – y dylai'r ysgol fabwysiadu dull mwy rhagweithiol wrth recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, yn enwedig i raglenni ôl-raddedig, ac ym 1995 cafodd Don y dasg o ddwyn hyn yn ei flaen. I ddechrau, roedd yn gwneud hynny ochr yn ochr â’i rôl academaidd yn yr Ysgol, ond fel y tyfodd y swydd yn sgil llwyddiant Don wrth recriwtio myfyrwyr, tueddodd i ganolbwyntio mwy a mwy ar y rôl honno tan, yn y pen draw, mai ef oedd Cyfarwyddwr Recriwtio Myfyrwyr Tramor yr Ysgol Busnes.

Y dyddiau hyn, mae recriwtio myfyrwyr rhyngwladol yn nodwedd safonol ysgolion busnes ledled y byd. Fodd bynnag, ar y pryd roedd y syniad o academyddion yn mynd i wledydd eraill i recriwtio myfyrwyr yn syniad newydd, ond yn un a fabwysiadodd Don iddo’i hun. Roedd ei lwyddiant wrth annog darpar fyfyrwyr i wneud cais i Ysgol Busnes Caerdydd, yn hytrach na sefydliad oedd yn gystadleuwr, yn llwyddiant eithriadol, yn enwedig ymysg marchnadoedd allweddol India a Tsieina. Adeiladwyd hyn, yn rhannol, ar y berthynas a'r cyfeillgarwch a sefydlodd gyda'r rhai a oedd yn rhedeg asiantaethau recriwtio myfyrwyr dramor ond, yn yr un modd, roedd yn adlewyrchu cydberthnasau a ddatblygodd gyda staff yn yr asiantaethau hynny – pobl sydd fel arfer yn tueddu i gael ychydig iawn o gydnabyddiaeth am y gwaith a wnaethant. Wrth gwrs, bu’r huodledd a’r brwdfrydedd a ddangosodd Don yn ei darlithoedd o fudd mawr iddo yn y cyflwyniadau a roddodd mewn ffeiriau recriwtio a mannau eraill. Gall y rheiny wnaeth brofi’r cyflwyniadau hynny dystio i ymateb brwd ei gynulleidfa, gyda llawer o gymeradwyo a churo byrddau i ddangos eu gwerthfawrogiad

Fodd bynnag, roedd cysylltiad Don â recriwtio myfyrwyr yn fwy na hyrwyddo’r Ysgol Busnes mewn gwledydd eraill. Roedd ochr bugeiliol y rôl yn hawlio rhan sylweddol o’i amser. Roedd Don ar gael drwy’r amser, p’un ai bod hynny dramor neu yng Nghaerdydd, i siarad â myfyrwyr presennol, darpar fyfyrwyr, a’u rhieni.  Byddai pobl yn aml yn aros i gael hawlio’i sylw yn lobïau gwesty, a hyd yn oed yn ymddangos wrth ei fwrdd brecwast, gyda litani o geisiadau y byddai Don yn ymdrechu i fynd i’r afael â hwy. Yn yr un modd, yng Nghaerdydd, byddai'n anarferol i beidio â gweld myfyrwyr yn ciwio y tu allan i ddrws ei swyddfa yn aros i drafod un mater neu un arall.

Roedd arwyddocâd y llwyddiant a gyflawnodd Don wrth recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ar gyfer yr Ysgol Busnes yn gyfraniad allweddol i’r llwyddiant a gyflawnwyd gan yr Ysgol ar ôl hynny. Yr adnoddau cynyddol a ddaeth yn sgil y niferoedd o fyfyrwyr rhyngwladol bywiog, wnaeth alluogi'r ysgol i fuddsoddi mewn cyfadran academaidd sydd wedi’i gosod mor uchel yn nhablau cynghrair ymchwil rhyngwladol. At hynny, bu’n allweddol wrth newid natur recriwtio myfyrwyr rhyngwladol gyda’r rhan a chwaraeodd – drwy gyfrwng cyngor ac anogaeth – wrth sefydlu un o'r asiantaethau recriwtio myfyrwyr gorau yn Tsieina a datblygu ac ehangu rhai eraill yn India.

Nid oedd cysylltiad Don gyda Phrifysgol Caerdydd wedi’i gyfyngu i faterion academaidd ac am flynyddoedd lawer, bu’n hoff o chwarae criced ar gyfer un o dimoedd staff y brifysgol fel batiwr agoriadol cryf, effeithiol, a bowliwr defnyddiol ar gyflymder canolig. Byddai'n deg dweud, fodd bynnag, wrth iddo dyfu’n hŷn, tyfodd maen clo ei fedr griced yn un o ofal, gan osgoi un rhediad, a bod yn dueddol iawn o redeg yn gynt na chapten ei glwb, fyddai’n brwydro arth y pen arall. Fel bowliwr, roedd ei ddull byr iawn ac araf o ddechrau rhedeg yn aml yn twyllo’r gwrthwynebwyr, gan fod yn ddull effeithiol yn hytrach na deniadol. Roedd Don, fodd bynnag, bob amser yn gwmni da ar y cae (ac ar ôl hynny), ac roedd gemau bob amser yn fwy difyr pan oedd ef ar y tîm.

Roedd Don yn falch o fod yn Gymro, ond yn arbennig o falch o'i wreiddiau yn y Cymoedd a'r hyn a welai fel uniondeb a gwedduster y cymunedau glofaol lle cafodd ei fagu. P’un a oedd yn darlithio i fyfyrwyr, yn gweithio dramor yn recriwtio myfyrwyr, neu ar y cae criced, mwynhaodd Don gwaith a bywyd gyda brwdfrydedd llwyr, mwynhad a drosglwyddwyd i gydweithwyr a myfyrwyr fel ei gilydd bydd ei hwyl ddireidus yn cael ei cholli’n arw.

Mae Don yn gadael gwraig, Linda, eu plant, Jonathan a Caroline, a'u teuluoedd.