Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi newyddiadurwyr ifanc

22 Mehefin 2017

Grace Adeniji
Grace Adeniji, the 2016 recipient of the Sue Lloyd-Roberts Scholarship

Mae Ysgoloriaeth Sue Lloyd Roberts – a luniwyd i gefnogi hyfforddiant newyddiadurwyr ifanc yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd - wedi cael rhodd o £50,000 gan y BBC.

Bydd y rhodd yn gwneud cyfraniad sylweddol i gronfa’r Ysgoloriaeth, a lansiwyd gan ffrindiau a theulu Sue Lloyd Roberts – a fu’n newyddiadurwr i’r BBC ac i ITN - yn dilyn ei marwolaeth yn 2015.

Bydd yn cynnal ffioedd un myfyriwr y flwyddyn a fydd yn cael ei hyfforddi ym mhrif ysgol newyddiaduraeth y Deyrnas Unedig ym Mhrifysgol Caerdydd.  Mae'r rhodd yn cyfateb i un arall a wnaed gan Google yn gynharach yn y flwyddyn academaidd.

Mae ffrindiau a theulu wedi bod yn gweithio gydag Adran Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr y Brifysgol er mwyn parhau i gynyddu’r gronfa. Mae 50 o roddwyr yn ei chefnogi bellach - ac mae’n parhau o fod ar agor i dderbyn rhagor o gefnogaeth.

Rhaid i’r rhai sy'n derbyn yr ysgoloriaeth ddangos ymrwymiad i’r mathau o faterion y byddai Sue Lloyd Roberts yn adrodd amdanynt – gan gynnwys hawliau dynol, materion rhyngwladol a'r amgylchedd.

Front of BBC building

Dywedodd Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC: “Roedd Sue Lloyd-Roberts yn newyddiadurwr eithriadol. Roedd hi'n bwysig, yn arloesol ac yn ddewr...”

“Yn y BBC a thu hwnt, mae angen i ni wneud rhagor i gefnogi newyddiadurwyr ifanc, penderfynol ac uchelgeisiol sydd am fynd ar drywydd y storïau mwyaf a phwysicaf.”

Tony Hall Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC

“Rydyn ni'n cymryd camau i ofalu bod y newyddiaduraeth ymchwiliol a dewr oedd yn bwysig iddi, a’r math y gwnaeth hi helpu i’w diffinio, yn parhau.”

Dywedodd yr Athro Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, Richard Sambrook: “Rydym yn llawenhau y bydd y gronfa a sefydlwyd gan deulu a ffrindiau niferus Sue yn etifeddiaeth i’w gwaith eithriadol a'i hymrwymiad i gyfiawnder a chydraddoldeb ledled y byd....”

“Mae Prifysgol Caerdydd yn falch iawn y bydd cyfraniad hael y BBC yn gweddnewid y cyfleoedd a gynigir i genedlaethau o newyddiadurwyr newydd yn y blynyddoedd i ddod.”

Yr Athro Richard Sambrook Director - Centre for Journalism

Grace Adeniji oedd y gyntaf i dderbyn y dyfarniad. Mae Grace yn credu bod newyddiaduraeth yn ffordd bwysig o ymladd dros hawliau dynol ac yn erbyn llygredd. Dechreuodd ei chwrs MA mewn Newyddiaduraeth Darlledu ym mis Medi a bydd yn graddio eleni. Mae ceisiadau ar gyfer ysgoloriaeth eleni ar agor ar hyn o bryd.

Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd yw un o'r sefydliadau sy’n sgorio uchaf yn y wlad o safbwynt addysgu’r cyfryngau. Mae’r ymchwil a wneir yno yn helpu i lunio tirweddau newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu rhyngwladol.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cynnig ysgoloriaethau amser llawn a rhan amser ar gyfer ein cyrsiau galwedigaethol ac ymarferol.