Ewch i’r prif gynnwys

"Astudio yn Ewrop? Baswn yn ei wneud eto fory nesaf!" meddai myfyriwr wrth i leoliadau gwaith Ewropeaidd y Brifysgol ddyblu mewn 5 mlynedd

8 Mai 2015

Joshua Evans - Europe Day
A taste of Italy: Cardiff University language student Joshua Evans in Liguria on his year abroad.

Mae nifer y myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy'n cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith ar draws Ewrop wedi mwy na dyblu mewn pum mlynedd.

I ddathlu Diwrnod Ewrop (9 Mai 2015), mae'r Brifysgol yn amlygu ffigurau sy'n dangos poblogrwydd cynyddol lleoliadau mewn sefydliadau Ewropeaidd.

Er bod nifer y myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy'n cymryd rhan mewn lleoliadau astudio wedi cynyddu'n raddol dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r nifer sy'n dewis cael profiad mewn gweithle yn Ewrop wedi cynyddu o 43 yn 2009-10, i 105 yn 2014-15 – cynnydd o 144%.

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae lleoliadau gwaith ym mhrifysgolion Ewrop yn cynnig manteision ehangach i Brifysgol Caerdydd. Maent yn cynnig profiad o'r 'byd go iawn' i fyfyrwyr yn ogystal â chyfle i sefydlu partneriaethau gydag amrywiaeth o sefydliadau. Yn sgil hynny, mae hyn yn ein helpu ni i gael arian i drawsnewid syniadau arloesol gan Brifysgol Caerdydd yn rhaglenni ymchwil ar draws Ewrop gyfan." 

Bydd myfyrwyr y Brifysgol yn manteisio ar ystod o leoliadau yn 2015. Mae myfyriwr Daearyddiaeth Forol wedi derbyn swydd dan hyfforddiant yn Sefydliad Cadwraeth Forol Archipelagos yng Ngwlad Groeg; bydd myfyriwr MA mewn Fferylliaeth yn mynychu Prifysgol Malta, a bydd myfyriwr Optometreg yn mynd i Brifysgol Latfia.

Mae Edward Crymble, o Ddwyrain Sussex, yn astudio BA mewn Almaeneg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Bu'n gweithio fel Cynorthwy-ydd Iaith Dramor mewn ysgol alwedigaethol yn Stade, yr Almaen, yn 2013-14.

"Mynd i fyw a gweithio yn yr Almaen am flwyddyn oedd y penderfyniad gorau yr wyf wedi'i wneud i ddatblygu fy astudiaethau yn y Brifysgol.  Cefais y cyfle i ymdrwytho mewn gwlad a diwylliant arall, a dysgais yr iaith yn rhugl gan wneud ffrindiau gydol oes yn y broses, heb sôn am roi hwb trawiadol i fy CV. Mae pob un ohonom yn teimlo weithiau fel ffarwelio â'r DU i chwilio am rywbeth gwahanol – mae Ewrop yn cynnig cyfle i wneud hyn heb orfod mynd yn rhy bell. Baswn yn argymell i unrhyw un fynd i weithio, astudio neu gymryd rhan mewn prosiect ymdrwytho diwylliannol yn Ewrop - baswn yn ei wneud eto fory nesaf!"

Mae Joshua Evans yn astudio gradd Ffrangeg ac Eidaleg gyd-anrhydedd. Treuliodd ei dymor cyntaf yn Institut Libre Haps Marie ym Mrwsel; mae ym Mhrifysgol Pisa ar gyfer ei ail dymor.

"Roeddwn wastad wedi meddwl y baswn yn byw ac yn gweithio yn y DU ar ol graddio; fodd bynnag, mae fy lleoliadau astudio yng Ngwlad Belg a'r Eidal wedi gwneud i mi ystyried fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol," meddai Joshua.

"Cefais groeso cynnes yn syth gan y sefydliad oedd yn fy nerbyn, ac roeddwn yn teimlo'n yn gartrefol yn fy narlithoedd. Mae fy sgiliau darllen a deall wedi gwella'n sylweddol ac rwy'n teimlo'n hyderus wrth siarad â siaradwyr brodorol. Mae astudio dramor yn brofiad gwerthfawr ac amhrisiadwy. Nid yw blwyddyn yn unig yn ddigon yn ol pob tebyg, ond yr hyn a wnewch ohoni sy'n cyfrif."

Dywedodd Rose Matthews, Pennaeth Canolfan Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd: "Mae lleoliadau gwaith yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae swyddi o dan hyfforddiant byrrach, 60 diwrnod o hyd, wedi'u cyflwyno'n ddiweddar gan alluogi myfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn yn ystod eu gwyliau haf. Mae ein hysgolion academaidd yn gweithio'n galed i feithrin cysylltiadau newydd ar draws Ewrop.  Mae hyn yn aml yn arwain at fyfyrwyr yn ymgymryd â gwaith ymchwil mewn prifysgol, neu brofiad gwaith academaidd sy'n gysylltiedig â maes perthnasol. Rydym hefyd yn gwneud llawer mwy i hyrwyddo rhaglen Erasmus +, i annog mwy o fyfyrwyr i astudio neu weithio dramor."

Mae Canolfan Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd yn cynnig ystod o swyddi o dan hyfforddiant a chyfleoedd i astudio ledled Ewrop o dan Gynllun Erasmus+, yn ogystal â llawer o gyfleoedd eraill i fyfyrwyr astudio, gweithio neu wirfoddoli ledled y byd.

Mae gan Brifysgol Caerdydd ymhell dros 300 o gytundebau gyda sefydliadau ar draws Ewrop, ac mae'r Brifysgol yn croesawu tua 350 o fyfyrwyr Ewropeaidd Erasmus+ bob blwyddyn.

Rhannu’r stori hon