Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect cymunedol ar y rhestr fer ar gyfer gwobr archaeoleg nodedig

2 Tachwedd 2017

CAER project

Mae Prosiect Treftadaeth CAER, partneriaeth arloesol rhwng y sefydliad datblygu cymunedol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), Prifysgol Caerdydd, ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a thrigolion, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o wobrau mwyaf nodedig y DU ym maes archaeoleg.

Enwebwyd y prosiect ar gyfer Gwobr Marsh am archaeoleg gymunedol, ac mae’n gweithio tuag at ailddarganfod treftadaeth un o drysorau cudd Caerdydd, Bryngaer Oes Haearn Caerau. Mae’r fryngaer yn edrych dros faestrefi gorllewinol y ddinas, ac wedi’i lleoli yn un o faestrefi mwyaf bywiog de-ddwyrain Cymru – ond eto un sy’n wynebu heriau cymdeithasol.

Bellach yn ei phumed flwyddyn, mae Prosiect Treftadaeth CAER yn dechrau ar y cam datblygu o’i grant ar gyfer Bryngaer Gudd gan Dreftadaeth y Loteri. Y nod yw agor y safle, drwy neuadd efengyl wedi’i throi’n ganolfan ymwelwyr, gardd gymunedol a llwybrau treftadaeth ar gyfer y cyhoedd ehangach.

Bob blwyddyn, mae Gwobrau Archaeoleg Marsh yn dathlu rhagoriaeth ym maes archaeoleg gymunedol, ac yn cydnabod angerdd ac ymroddiad y rhai sy’n gweithio mor galed er mwyn diogelu a deall Archaeoleg Prydain.

Cefnogir Gwobr Marsh am Archaeoleg Gymunedol gan Ymddiriedolaeth Christian Marsh. Mae’n cydnabod ac yn hyrwyddo canlyniadau gwaith ymchwil a/neu waith maes a arweinir gan grwpiau cymunedol sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at wybodaeth a lles pobl.

Dywedodd Dr Oliver Davis, cyd-gyfarwyddwr y prosiect yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn falch iawn bod prosiect treftadaeth CAER wedi'i gydnabod am ei effaith ar y gymuned a'i arwyddocâd archeolegol. Mae ein gwaith cloddio dan arweiniad y gymuned wedi datgelu bod y safle yn ganolfan bŵer yn ystod cyfnodau Neolithig i'r Oesoedd Rhufeinig a'r Oesoedd Canol..."

"Mae’r prosiect yn allweddol er mwyn datgloi potensial yr ardal, cydnabod ei phwysigrwydd rhyngwladol a chreu dyfodol newydd ar gyfer Caerau a Threlái."

Dr Oliver Davis Senior Lecturer, CAER Heritage Project Co-director (Study Leave 2022/3 (Semester 1))

Ychwanegodd Dave Horton o Gweithredu yng Nghaerau a Threlái: "Mae’r prosiect wedi cael effaith sylweddol a chynyddol ar ein cymuned. Rydym yn creu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer yr ardal, ond hefyd yn dod â phobl o bob cenhedlaeth a chefndiroedd at ei gilydd er mwyn gwneud mwy o newid. Mae pobl leol yn dysgu sgiliau newydd, mae ysgolion lleol yn cyflwyno ein treftadaeth mewn ystafelloedd dosbarth, ac rydym yn dechrau agor y safle er mwyn rhannu ein treftadaeth arbennig gyda phobl ledled y byd."

Bydd enillwyr y gwobrau ar gyfer y Prosiect Cymunedol, Archeolegwr Ifanc ac Archeolegwr Cymunedol yn cael eu cyhoeddi gan Gyngor Archaeoleg Prydain mewn seremoni arbennig yn Llundain ar 6 Tachwedd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.