Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu darpariaeth a chreu cyfleoedd i fyfyrwyr

30 Hydref 2017

Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn lansio darpariaeth newydd sydd yn cynnig rhagor o brofiad gwaith ac yn datblygu sgiliau proffesiynol myfyrwyr.

Mae’r Ysgol yn ehangu ei darpariaeth israddedig arloesol, gan gynnig dwy radd anrhydedd newydd ar gyfer Mynediad 2018.

Mae’r radd sengl newydd, BA Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol, yn cyfuno’r academaidd a’r galwedigaethol ac yn cynnig cyfle i fyfyrwyr feithrin sgiliau sydd yn berthnasol i’r gweithle proffesiynol neu wrth barhau i astudio ym maes y Gymraeg.

Mae cyfnod o brofiad gwaith ar leoliad yn rhan greiddiol o strwythur y radd hon yn ystod yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf a bydd myfyrwyr yn gweithio ar brosiect ymchwil sy’n ymwneud â’r gweithle proffesiynol.

Mae gan yr Ysgol gysylltiadau cryf ag ystod o weithleoedd a chwmnïau yng nghanol bwrlwm y brifddinas a thu hwnt, a bydd myfyrwyr yn gallu manteisio ar y cysylltiadau hyn a dechrau adeiladu rhwydweithiau proffesiynol a fydd o fudd iddynt yn y dyfodol.

Y rhaglen newydd arall sydd ar gael yw BSc Rheolaeth Busnes gyda’r Gymraeg. Dyma raglen newydd a chyfoes sy’n cael ei chynnig ar y cyd ag Ysgol Busnes Caerdydd.

Dywed Dr Angharad Naylor, Tiwtor Derbyn Ysgol y Gymraeg: “Rydym yn falch o allu gynnig cyfleoedd pellach i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau academaidd a galwedigaethol o’r radd flaenaf. Rydym yn llwyr ymwybodol o bwysigrwydd a gwerth profiad gwaith a gall myfyrwyr sy’n dilyn y BA Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol fanteisio ar ragor o gyfleoedd i roi eu sgiliau ar waith mewn gwahanol sefyllfaoedd.

“Mae ein holl raddau sengl a chydanrhydedd yn Ysgol y Gymraeg yn paratoi ein myfyrwyr at ystod o yrfaoedd proffesiynol yn y Gymru gyfoes. Mae’r ddarpariaeth newydd hon yn golygu ein bod yn parhau i gyfoethogi profiadau ein myfyrwyr a darparu’r cyfleoedd gorau posibl iddynt yn y brifysgol.”

Mae gan Ysgol y Gymraeg enw da am safon ei dysgu ac ymchwil a hanes hir o gefnogi sgiliau cyflogadwyedd ei myfyrwyr. Yn ogystal â chanlyniadau NSS ardderchog (boddhad o 92%), yn yr arolwg diweddaraf o gyrchfan graddedigion (DLHE 2017) dangoswyd bod 100% o fyfyrwyr yr Ysgol mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach chwe mis ar ôl graddio.

Mae cyfleoedd gwych a dyfodol disglair ar gael i fyfyrwyr a graddedigion Ysgol y Gymraeg yn ogystal â chyfle i gyfrannu at ddatblygiad y Gymraeg a’i diwylliant yn y Gymru gyfoes.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.